Newyddion
top of page

Latest News

Mae Grantiau Busnes yn ôl!
Mae Grantiau Busnesau Bach yn ôl ar Ynys Môn! Ymunwch â ni ar gyfer Digwyddiad Gwybodaeth a Lansio Grantiau Môn CF! Mae Môn CF yn gadael i berchnogion busnesau lleol ddarganfod yr holl gefnogaeth sydd ar gael drwy Môn CF! Bydd y digwyddiad yn lansio'r rownd nesaf o Grantiau Busnes Bach! Mae'r grantiau hyd yma wedi helpu cannoedd o fusnesau bach ar Ynys Môn i dyfu a chynyddu! Os ydych chi'n berchennog busnes bach, yn fasnachwr unigol hunangyflogedig, neu os oes gennych chi syniad busnes yr hoffech ei drafod, mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi! Am y Digwyddiad Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i fusnesau bach ddarganfod yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael ar Ynys Môn! Cewch wybodaeth am Môn CF, a’r hyn sydd ar gael I chi a’ch busnes. Bydd ein timau wrth law i roi cyngor a chymorth ym mhob agwedd or fusnes, gan gynnwys: Grantiau a Chyllid  - Cefnogi datblygiad a thwf busnesau lleol. Lleoliadau Gwaith â Thâl  - Helpu busnesau i fanteisio ar dalent a datblygu'r farchnad swyddi ar Ynys Môn. Cefnogaeth Cyflogaeth  – Help I chi ddatblygu eich gweithlu. Gwasanaethau Recriwtio Am Ddim - I helpu busnesau i ddod o hyd i'r bobl iawn a llenwi swyddi’n gyflym. Dylunio Gwe a Marchnata  – Help hefo brandio’ch busnes a mynd ar lein. Hyfforddiant - Helpu I ddatblygu [obl a busnensu Ynys Môn drwy hyfforddiant pwrpasol.   Bydd cynrychiolwyr asiantaethau hefyd yn y digwyddiad i roi cymorth i fusnesau. Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ynys Môn , Busnes Cymru , Banc Datblygu Cymru, FSB , a Menter Môn yn bresennol, gyda mwy i’w cyhoeddi’n fuan! Pam ddylwn i ddod? Daeth dros 300 o fusnesau i’n digwyddiad diwethaf, ac o ganlyniad, cawsant y cymorth yr oedd ei angen arnynt i dyfu! Rydym am helpu hyd yn oed mwy o fusnesau ar Ynys Môn drwy gymorth ymarferol a grantiau. Dyna pam mae ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yng Ngwesty Bulkeley ym Miwmares. Os ydych yn mynychu’r noson cewch wybod yn gynnar am y grant a sut i’w hawlio. "Bydd pawb sy'n mynychu'r digwyddiad yn cael Y CYFLE CYNTAF i wneud cais am grant!" Pryd a ble mae'r Digwyddiad? Lansio Noson Wybodaeth a Grantiau Môn CF: Ebrill 11eg 3pm - 8pm Gwesty Bulkeley, 19 Stryd y Castell, Biwmares, LL58 8AW Sut ydw i'n cofrestru? Mae cofrestru ar gyfer digwyddiad Gwybodaeth a Grantiau Môn CF yn hawdd. Rydym yn deall bod rhedeg busnes yn golygu eich bod yn brysur. Mae modd I chi bwcio slot I weld un o’n staff ar y noson, ymlaen llaw. Dilynwch y ddolen isod, dewiswch amser sy'n addas i chi ac archebwch eich tocyn. Mae mynediad i’r digwyddiad yn hollol AM DDIM , a dim ond ychydig funudau y mae cofrestru’n ei gymryd.

11 Mar 2024

Môn CF yn gadael Gwynedd
Yn anffodus mae Môn CF yn gorfod cyhoeddi y byddwn yn cau ei swyddfeydd yng Ngwynedd yn Ionawr 2023. Agorwyd ein swyddfeydd yn Stryd y Deon, Bangor a Stryd Llyn, Caernarfon yn benodol i roi cymorth i drigolion Gwynedd drwy ddefnyddio arian Ewropeaidd. Gyda chyllid Ewropeaidd bellach yn dod i ben, nid oes gennym unrhyw ddewis arall ond rhoi'r gorau i'n gwasanaeth yn y ddau leoliad yma. Hoffem ddiolch i'n holl gleientiaid yng Ngwynedd am ymddiried yn Môn CF i'w cynorthwyo hefo'u hymdrechion. Bydd gwasanaeth Môn CF yn parhau ar Ynys Môn gyda’n timau cyflogaeth, cymorth busnes a hyfforddiant yn dal i gynnig lefel uchel o gymorth i fusnesau, y rhai sy’n dymuno dod yn hunangyflogedig ac unigolion sy’n chwilio am waith neu wella eu sefyllfa yrfaol. Wrth i’n cyfnod yng Ngwynedd ddod i ben, rydym am adlewyrchu a dathlu llwyddiant rhai o’r unigolion rydym wedi cael pleser o weithio hefo nhw. Ers i ni agor ein swyddfeydd ym Mangor a Chaernarfon ym mis Chwefror 2021, rydym wedi cynorthwyo dros 400 o bobl, 75% ohonynt ar ein prosiect Cynhwysiant Gweithredol a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) a 25% o’r gweddill wedi derbyn cymorth Mewn Gwaith (arian ESF). Gyda chefnogaeth ein tîm hyfforddi mae 127 o gleientiaid wedi derbyn ystod o gymwysterau achrededig. Rydym wedi creu dros 200 CV ac wedi helpu dros 240 o bobl i wella eu sefyllfa yn y farchnad lafur. Rydym wedi gweithio hefo dros 200 o fusnesau, drwy eu cynorthwyo i recriwtio staff gan yn aml wneud defnydd o ffeiriau swyddi pwrpasol, a gwnaethom ariannu nifer o leoliadau gwaith gyda chyfraniad tuag at y cyflog. Lleolwyd 47 o unigolion mewn mentrau yng Ngwynedd a sicrhaodd dros 80% o'r unigolion hynny swyddi parhaol hefo’r busnesau hyn. Fel esiampl, dau unigolyn derbyniodd gymorth oedd Adam Giles ac Alaw Griffiths. Roedd Adam Giles yn ddisgybl ysgol a benderfynodd fanteisio ar ein Rhaglen Anelu yn Ysgol Dyffryn Nantlle ac ers hynny mae o wedi cael cefnogaeth i basio ei brawf CSCS a derbyn ei Gerdyn Llafurwr. “Roeddwn i’n teimlo’n nerfus wrth fynd at Mȏn CF am gefnogaeth, ond fe wnaeth Rhian (Mentor Cyflogaeth) fy helpu gyda phopeth. Rwyf wedi cwblhau nifer o gyrsiau ac wedi gweld budd o gael yr Ap CSCS. Bellach mae gen i gerdyn CSCS ac rwy’n gobeithio dechrau gweithio hefo chwmni adeiladu lleol yn y flwyddyn newydd.” Mae Alaw Griffiths, 19 oed, o'r Groeslon wedi cychwyn ar ei thaith i fod yn barafeddyg. Pan oedd Alaw ym mlwyddyn 11, aeth ar brofiad gwaith i ysgol gynradd leol, a dyna pryd y sylweddolodd nad oedd addysgu yn addas iddi fel gyrfa a phenderfynodd y byddai’n well ganddi fod yn barafeddyg. Ar ôl astudio Lefel A Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gwasanaethau Cyhoeddus, gwnaeth Alaw gais am gwrs Gwyddoniaeth Barafeddygol prifysgol ond bu’n aflwyddiannus gyda’i chais oherwydd diffyg profiad perthnasol yn y sector. Daeth Alaw i Môn CF ar ôl cyfarfod â ni yn ein ffair swyddi yng Nghaernarfon nôl ym mis Chwefror 2022; roedd hi'n gweithio ar gontract oriau sero mewn Rheilffordd Dreftadaeth leol ar y pryd. Roedd hi angen cyngor ar ffyrdd y gallai feithrin y wybodaeth a'r sgiliau perthnasol yn y sector gofal i allu ail-ymgeisio ar Gwrs Parafeddygol yn y Brifysgol y flwyddyn ganlynol. Yn gyntaf, derbyniodd Alaw gefnogaeth gyda’i CV i baratoi i ddechrau chwilio am swydd a chwblhaodd hyfforddiant mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith, Codi a Chario, Diogelu, Cymorth Cyntaf Pediatrig, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ac Atal Hunanladdiad. Unwaith y cafodd Alaw ei CV gyda’r holl gymwysterau newydd hyn, cafodd Alaw gymorth gan Rhian (Mentor) hefo gwneud ceisiadau am swyddi a sesiynau paratoi ar gyfer cyfweliadau. Llwyddodd Alaw i sicrhau rôl Cynorthwyydd Banc Gofal Iechyd yn Ysbyty Gwynedd ac mae'n mwynhau'r rôl yn fawr. Dywedodd Alaw: “Mae gen i restr o gymwysterau na fyddwn i wedi’u cael o’r blaen, mae hynny i gyd oherwydd Môn CF. Pe na bawn i wedi dod yma, ni fyddwn wedi cael yr holl gymwysterau yma ac ni fyddai unrhyw ffordd arall i mi eu cael ychwaith. Roedden nhw'n edrych yn dda ar fy CV ac yn fy ngalluogi i gael y swydd. Helpodd Rhian fi hefo fy CV a hefo ffurflen gais, gwnaeth hi bopeth a dweud y gwir. Roedd hi’n wych, roedd hi'n barod iawn i helpu. Gwnaeth Rhian bopeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y cyfan yn mynd yn iawn. Aeth hi du hwnt i’r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl." Trwy weithio'n frwd mewn amgylchedd gofal, bydd Alaw rŵan yn gallu darparu digon o dystiolaeth i hybu ei rhagolygon o sicrhau lle mewn prifysgol pan fydd hi’n gwneud cais ym mis Ionawr 2023. Ei nod yw dod yn barafeddyg a bydd yn parhau i weithio ar y banc tra bydd hi’n astudio. Hwyl fawr, am y tro Gwynedd. Mae wedi bod yn bleser.

23 Dec 2022

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol - Môn CF

3 Nov 2023

Codi arian at Coppafeel! a Movember
Mis Hydref oedd mis ymwybyddiaeth Canser y Fron a chodwyd yn agos i £100 ar gyfer Coppafeel! elusen ymwybyddiaeth canser y fron sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo canfod canser y fron yn gynnar, trwy annog merched o dan 30 oed i wirio eu bronnau'n rheolaidd. Bu dynion Môn CF a Cuffed-In Coffee yn cymryd rhan yn ‘ Movember ’ i godi arian ac ymwybyddiaeth o iechyd dynion a llwyddwyd i godi dros £700! Ychydig am fronnau… Gwisgodd y tîm cyfan ddillad PINC ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth Canser y Fron (21ain Hydref), a chynhaliwyd sesiwn ymwybyddiaeth yn adeilad yr Hive yng Nghaergybi, gan ddwy Nyrs Glinigol Arbenigol y Fron y GIG ar wirio eich bronnau. Bu merched ‘Knit and Natter’ Caergybi yn ddigon caredig i wau llwyth o fronnau ar gyfer y sesiwn, ac fe wnaethon ni eu cyflwyno wedyn i’n Hymwelwyr Iechyd lleol a fydd yn eu defnyddio wrth geisio annog mamau i fwydo ar y fron. Gyda'r arian yr ydym wedi'i godi gall CoppaFeel!: • Anfon 1,500 o negeseuon hwyliog i annog pobl i wirio eu bronnau trwy ein gwasanaeth atgoffa drwy neges destun rhad ac am ddim. • ddarparu sticeri i 210 o bobl ifanc i’w rhoi mewn cawod er mwyn eu hatgoffa i wirio eu bronnau bob mis. • Anfon 9 pecyn ymwybyddiaeth gofal iechyd i gael canolfannau meddygon teulu i’n cynorthwyo i ledaenu'r neges hefo chymorth ein deunyddiau. Rhagor o Newyddion… Mae Movember yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cynnwys tyfu mwstas yn ystod mis Tachwedd i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd dynion, megis canser y brostad, canser y ceilliau, a hunanladdiad dynion. Bu rhai o’r dynion yn tyfu mwstas ac eraill yn eu trin i siâp gwahanol ar gyfer Movember. Cerddodd Lefty dros 150 o filltiroedd. Gall ein rhodd helpu i achub tad, brawd, mab, ffrind, partner neu fywyd dyn. Bydd yr arian a godir yn helpu i wedd newid iechyd dynion. Diolch i bawb yn y gymuned am eich rhoddion a'ch cefnogaeth gyda'n hymdrechion i godi arian!

20 Dec 2022

Pobl busnes lleol! Mae canol tref Caergybi eich angen chi!
Mae Môn CF yn chwilio am bobl leol i ymuno â ni yn ein menter ddiweddaraf i helpu busnesau Sir Fôn i dyfu! Rydym wedi helpu cannoedd o fusnesau i lwyddo a symud yn eu blaenau i greu swyddi i bobl Ynys Môn. Mae ein prosiect diweddaraf yn ceisio ehangu ar y llwyddiannau hyn drwy gefnogi busnesau newydd i gychwyn mentrau newydd. Dyma le rydych chi’n dod i mewn! Nod ein prosiect newydd yw adfywio canol tref Caergybi trwy’r Rhaglen Eiddo Gwag, ac rydym am i berchnogion busnes uchelgeisiol ymuno â ni wrth i ni ddechrau rhywbeth uchelgeisiol a chyffrous! Os yw hyn yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, rydym yn awyddus i glywed gennych! Yn y post hwn, byddwch yn darganfod mwy am ein cynlluniau a gallwch gofrestru eich diddordeb hefo ni! Beth yw Cronfa Codi’r Gwastad? Ym mis Ionawr 2023, cytunodd Llywodraeth y DU i gymeradwyo cais Cyngor Sir Ynys Môn am £17m o’r gronfa. Mae’r buddsoddiad yma yn ei gyfanrwydd wedi ei glustnodi ar gyfer Caergybi er budd y gymuned leol. Amcan tymor hir y Gronfa yw dod a mwy o fywyd i ganol y dref er mwyn i drigolion lleol ac ymwelwyr werthfawrogi’r profiadau sydd i'w cael yno. Mae’r cyllid hwn yn dod â nifer o bartneriaid at ei gilydd (Môn CF, Canolfan Ucheldre, Cyngor Tref Caergybi, Esgobaeth Bangor) gyda’r bwriad o weddnewid y dref gan gynnig profiadau ac atyniadau newydd. Gyda’i gilydd byddant yn creu tref sy’n le deniadol i gael profiadau amrywiol. Mae Môn CF wedi sicrhau £4.93 miliwn o’r £17m sydd i ddod i Gaergybi fel rhan o agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU. Sut allwch chi gymryd rhan. Mae Môn CF yn awyddus i gynnig lleoedd yn adeilad HSBC a'r Adeilad Canolog i unigolion a mentrau lleol sy'n dymuno cynnal busnesau yn yr adeiladau hyn. Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer unrhyw un o’r mathau canlynol o fusnes: Caffi Bwyty Bragdy-micro ac Ystafell Tap Stiwdio Ddawns Bydd y rhent a godir gan Môn CF yn gystadleuol iawn ac yn seiliedig ar ein ffocws i greu lleoedd i fusnesau ffynnu a chreu swyddi hirdymor. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn un o’n tenantiaid allweddol, a chyfrannu at adfywio canol ein trefi, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb cyn gynted â phosibl. Yn ogystal, mae gennym adnoddau a mentoriaid ar gael i gefnogi eich cynlluniau busnes. Gallwn helpu i roi eich syniad ar sylfaen cadarn. Os hoffech ragor o wybodaeth cyn llenwi'r ffurflen, cysylltwch â ni heddiw! Mae gennym ddiddordeb mawr mewn archwilio syniadau ar gyfer busnesau a chlywed eich syniadau. Beth yw’r Rhaglen Eiddo Gwag? Mae elfen Môn CF o’r Gronfa Codi’r Gwastad yn anelu at drawsnewid canol tref Caergybi trwy’r Rhaglen Eiddo Gwag. Mae’r Rhaglen Eiddo Gwag yn ymwneud â phrynu eiddo gwag amlwg yng nghanol y dref a buddsoddi yn eu hadnewyddu er mwyn darparu eiddo fforddiadwy i fusnesau lleol weithredu ohonynt. Dros y blynyddoedd mae Môn CF wedi bod yn gweithio i ddod ag adeiladau masnachol gwag yn ôl i ddefnydd proffidiol o fewn rhai o drefi Môn. Bydd y prosiect diweddaraf yn ein gweld yn prynu mwy o eiddo gwag a dechrau ailddefnyddio nhw yng Nghaergybi. Y nod yw creu adeiladau cyffrous sy'n dod â bywyd yn ôl i ganol y dref. Bydd Môn CF yn dechrau datblygu math newydd o ganol tref, yn seiliedig ar farn ac anghenion a fynegwyd gan bobl leol. Mae'r Gronfa Codi’r Gwastad yn adlewyrchu gofynion ein cymuned leol, a bydd ei gweledigaeth yn dod â phobl yn ôl i ganol y dref. Hanes yr Eiddo. Y cyntaf o’r ddau eiddo rydym wedi’u prynu ydi hen adeilad HSBC. Ar un adeg roedd y banc prysur yn cael ei defnyddio gan bobl a busnesau lleol, ond mae’r adeilad wedi bod yn wag ers i HSBC adael yn 2017. Mae’r adeilad yn un mawr, tri llawr yn ganol tref Caergybi. Gyda’I nodweddion hanesyddol a’i gynllun unigryw, mae’n adeilad trawiadol. Ein gweledigaeth yw trawsnewid yr adeilad yn le sy’n addas ar gyfer bwyty modern, bar, ac ystafell tap. Mae’r llawr gwaelod yn berffaith ar gyfer y math hwn o drawsnewid oherwydd ei faint sylweddol. Bydd y llawr cyntaf, a’r ail lawr, yn dod yn gyfres o ystafelloedd dros nos o ansawdd uchel. Perffaith ar gyfer ymwelwyr ar arhosiad byr i’r ynys. Yr ail adeilad yw’r Adeilad Canolog (Gyrfa Cymru gynt), sydd wedi’i leoli gyferbyn â’r hen fanc. Wedi’i leoli ar gornel Stryd Williams a Stryd Farchnad mae’r Adeilad Canolog yn cynnwys tri llawr eang sy’n addas at lawer o ddefnyddiau. Y weledigaeth yw adrefnu’r adeilad fel ei fod yn addas ar gyfer caffi, stiwdio ddawns, a mannau cymunedol. Ar hyn o bryd, mae’r adeilad yn gartref i siop elusen, a fydd yn parhau i weithredu o’r adeilad. Cyrchfannau profiadau – newid pwrpas canol y dref. Mae Môn CF wedi sôn am y weledigaeth sydd yn seiliedig ar greu Cyrchfannau Profiadau, ond beth mae hyn yn ei olygu? Wrth i ddiwylliant y DU barhau i newid, bydd rhaid i ganol y dref newid hefyd. Er bod pwrpas y stryd fawr wedi newid, nid yw awydd pobl am brofiadau a lleoedd i ymweld wedi lleihau. Pwrpas ein gweledigaeth yw newid y ffordd y mae pobl yn defnyddio’r stryd fawr. Trwy ddefnyddio’r strwythurau sydd ar gael er budd y dre, mae cyfle i greu llefydd mae pobl eisiau ymweld!

1 Jun 2023

Cefnogaeth i bobl o’r Iwcrain sy’n byw ym Môn ac yn chwilio am waith
Mae Môn wedi bod yn cynorthwyo unigolion, sydd wedi gorfod symud o’r Wcráin i Fôn, hefo’u sgiliau Saesneg i’w galluogi i gael gwaith yn lleol. Ers Medi 2022, mae Anna Smith, Mentor Cyflogaeth ym Môn CF, wedi bod yn cynnal sesiynau Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, mewn lleoliadau yng Nghaergybi a Dylan’s ym Mhorthaethwy, a oedd yn cynnig lle am ddim yn eu bwyty i gefnogi'r sesiynau. Mae’r sesiynau yn neilltuol ar gyfer unigolion lle nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Mae Anna’n wreiddiol o’r Wcráin ac ymunodd hefo Môn CF yn Chwefror 2022 – ychydig wythnosau cyn i nifer o’i chyd Wcrainiaid ddechrau cyrraedd y wlad. Wcrainaidd yw iaith gyntaf Anna ac mae hi’n meddu ar gymhwyster CELTA (Cambridge Certificate in Teaching English to Speakers of Other Languages) sydd wedi rhoi cyfle iddi ddysgu Saesneg mewn ysgolion a sefydliadau hyfforddiant. Wrth ystyried ei rôl ddyddiol fel Mentor Cyflogaeth ym Môn CF mae Anna mewn sefyllfa wych i allu cynorthwyo pobl o’r Wcráin – sy’n byw ym Môn - i chwilio am waith drwy gyfrwng ei sesiynau. Fel sefydliad mae Môn CF yn hynod o falch o gael Anna yn ein mysg yn arbennig ei gallu i gynnal y sesiynau Saesneg i’r Wcrainiaid. Hefyd, mae Môn CF yn du hwnt o ddiolchgar i Glwb Rotari Caergybi am gyfrannu’n ariannol tuag at y sesiynau yng Nghaergybi. Mae ystadegau’r Swyddfa Gartref yn ymwneud â nifer yr unigolion o’r Wcráin sydd wedi derbyn Visa i fyw ym Mhrydain yn dangos fod dros 115,000 wedi dod i’r DU ers cychwyn y rhaglen. Mae nifer o’r unigolion hyn wedi dod i Fôn ac wedi derbyn cymorth gan sawl asiantaeth ers dod i’n plith. Credwn fod Môn CF wedi cynorthwyo tua 25% o’r unigolion hyn hyd yma a’n bwriad yw ehangu’r Cymorth yn y misoedd nesaf. Rydym wedi cynorthwyo pobl oedd yn cael eu cyflogi mewn sawl maes yn y Wcráin gan gynnwys cyfrifwyr, cyfreithwyr, Adnoddau Dynol, rheolwyr logisteg gweithwyr siopau ac unigolion profiadol ym myd gwasanaethau cwsmeriaid. Yn ôl Anna Smith, Mentor Cyflogaeth ym Môn CF: “Gyda nifer cynyddol o Wcrainiaid yn dod i fyw ar Ynys Môn a’r mwyafrif yn awyddus i chwilio am waith, sylweddolais fod nifer yn cael trafferth hefo’r iaith. Roedd angen addasu’r cymorth arferol er mwyn eu galluogi i gael gwaith. Roedd angen sesiynau iaith arnynt ac es ati i drefnu sesiynau penodol i’w helpu i ddatblygu geirfa a gramadeg sy'n gysylltiedig â byd gwaith. Yn ychwanegol maent yn derbyn Cymorth gyda sgiliau darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad yng nghyd-destun cyflogaeth. Yn ogystal, mae pob elfen o’r sesiynau hyn yn plethu’n naturiol hefo ysgrifennu CV, sgiliau chwilio am swydd allweddol, strategaethau a thechnegau yn Saesneg.” Edrychwn ymlaen at gefnogi'r unigolion hyn ymhellach i sicrhau swyddi sefydlog.

16 Dec 2022

bottom of page