Codi arian at Coppafeel! a Movember
top of page

Codi arian at Coppafeel! a Movember


Mis Hydref oedd mis ymwybyddiaeth Canser y Fron a chodwyd yn agos i £100 ar gyfer Coppafeel! elusen ymwybyddiaeth canser y fron sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo canfod canser y fron yn gynnar, trwy annog merched o dan 30 oed i wirio eu bronnau'n rheolaidd.


Bu dynion Môn CF a Cuffed-In Coffee yn cymryd rhan yn ‘Movember’ i godi arian ac ymwybyddiaeth o iechyd dynion a llwyddwyd i godi dros £700!


Ychydig am fronnau…


Gwisgodd y tîm cyfan ddillad PINC ar gyfer Diwrnod Ymwybyddiaeth Canser y Fron (21ain Hydref), a chynhaliwyd sesiwn ymwybyddiaeth yn adeilad yr Hive yng Nghaergybi, gan ddwy Nyrs Glinigol Arbenigol y Fron y GIG ar wirio eich bronnau.


Bu merched ‘Knit and Natter’ Caergybi yn ddigon caredig i wau llwyth o fronnau ar gyfer y sesiwn, ac fe wnaethon ni eu cyflwyno wedyn i’n Hymwelwyr Iechyd lleol a fydd yn eu defnyddio wrth geisio annog mamau i fwydo ar y fron.


Gyda'r arian yr ydym wedi'i godi gall CoppaFeel!:

• Anfon 1,500 o negeseuon hwyliog i annog pobl i wirio eu bronnau trwy ein gwasanaeth atgoffa drwy neges destun rhad ac am ddim.

• ddarparu sticeri i 210 o bobl ifanc i’w rhoi mewn cawod er mwyn eu hatgoffa i wirio eu bronnau bob mis.

• Anfon 9 pecyn ymwybyddiaeth gofal iechyd i gael canolfannau meddygon teulu i’n cynorthwyo i ledaenu'r neges hefo chymorth ein deunyddiau.



Rhagor o Newyddion…


Mae Movember yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cynnwys tyfu mwstas yn ystod mis Tachwedd i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd dynion, megis canser y brostad, canser y ceilliau, a hunanladdiad dynion.


Bu rhai o’r dynion yn tyfu mwstas ac eraill yn eu trin i siâp gwahanol ar gyfer Movember. Cerddodd Lefty dros 150 o filltiroedd. Gall ein rhodd helpu i achub tad, brawd, mab, ffrind, partner neu fywyd dyn. Bydd yr arian a godir yn helpu i wedd newid iechyd dynion.


Diolch i bawb yn y gymuned am eich rhoddion a'ch cefnogaeth gyda'n hymdrechion i godi arian!


bottom of page