Trwyddedau a Chymwysterau Hyfforddiant Achrededig
Our Customers
I sicrhau fod pobl yn llwyddo a datblygu’r gweithlu lleol.
Ffocws ein cyrsiau yw hyfforddiant ymarferol sy’n sicrhau fod cyfranogwyr yn cael profiadau gwerthfawr fydd o gymorth iddynt yn eu gyrfaoedd.
Cydweithiwn yn agos iawn hefo cyflogwyr lleol er mwyn dod i wybod pa sgiliau sydd eu hangen arnynt yn ein hardal ni. Awn ati wedyn i deilwrio cyrsiau ar eu cyfer gan arwain at weithlu Môn sy’n fwy cymwys i wneud eu gwaith.
Bydd ein hyfforddwyr profiadol yn gallu cynnig hyfforddiant mewn amrywiol sectorau a bydd ein mentoriaid ar gael i helpu’r unigolion hynny sydd wedi dod atom am gymorth i gael gwaith.
Ein cymorth i gyflogwyr
Buddsoddwch yn eich gweithwyr drwy gyfrwng ein rhaglen gwasanaethau hyfforddiant mewn-gwaith
Deallwn bwysigrwydd gweithlu sydd â sgiliau a’r awydd i wella eu heffeithlonrwydd. Mae ein rhaglenni hyfforddiant ar gyfer pobl sydd eisoes mewn gwaith wedi eu teilwrio’n fwriadol er mwyn galluogi cyflogwyr i ddewis o ystod eang o ffyrdd i wella a datblygu eu gweithle’n effeithiol.
Mae ein hyfforddwyr yn meddu ar arbenigedd a gwybodaeth ymarferol ac yn dod a’r rhain i mewn i'w sesiynau sydd yn gwneud eu cyrsiau’n berthnasol i sefyllfaoedd gwaith gwahanol.
Hyrwyddwn ddiwylliant o ddysgu cyson a thyfiant proffesiynol o fewn timau yn y gweithle. Byddwn yn grymuso’ch gweithwyr i fod yn awyddus i daclo sialensiau a heriau newydd.
Ein Partneriaid
Ewch ati heddiw!
Ewch ati i wneud defnydd o gyrsiau hyfforddiant Môn CF er mwyn gwella’ch sgiliau a’ch siawns o gael gwaith.
Dewch i gysylltiad â ni er mwyn dod i wybod sut allwn ni eich helpu chi i lwyddo.