Llwybrau i alluogi pawb ym Môn i gael gwaith!
Os ydych chi un ai’n ddi-waith ac yn chwilio am swydd, neu eisoes mewn gwaith ac yn dymuno cyfleoedd gwell, mae ein tîm yma ar gael i’ch helpu.
​
Mae ein Mentoriaid ar gael i'ch helpu cael gwaith cyn belled â’ch bod yn gyw ar yr ynys. Bydd yna lwybr unigryw i chi yn eich disgwyl a byddwn yma i'ch helpu troedio’r llwybr tuag at ddyfodol disglair ym myd gwaith!
Cefnogi pobl i waith – y flwyddyn 2022
1080+
unigolyn wedi derbyn cymorth gan Môn CF
500+
unigolyn wedi derbyn swydd drwy help Môn CF
960+
unigolyn wedi derbyn sgiliau newydd neu hyfforddiant drwy ein amryw brosiectau
Prosiectau Cyflogi
Rydym yn edrych ar bob prosiect newydd fel cyfle i wneud pethau mymryn yn wahanol. Ein nod cyson yw rhoi cymorth i unigolyn wella eu sefyllfa rhan byd gwaith. Bydd hyn yn cynnwys darparu hyfforddiant achrededig a darparu ar gyfer cyfweliad, mae’r cymorth yna ar eich cyfer.
Cymorth os ydych mewn gwaith yn barod
Cymorth sy’n helpu creu gwell dyfodol i chi. Mae angen addasu’n gyson i'r byd gwaith fel y mae hi heddiw. Mae ein cymorth wedi’i deilwrio’n bwrpasol at eich gofynion unigryw chi gyda phwyslais ar roi sgiliau i chi er mwyn eich galluogi i lwyddo yn y dyfodol. Cymerwn ystyriaeth o’r angen am gyd bwysedd rhwng gwaith a bywyd gartref a bydd ein cymorth yn hyblyg er mwyn cyd-fynd â’ch patrwm bywyd chi. Mae’r cymorth ar gael i rywun sydd mwn gwaith neu’n ddi-waith.
Ymunwch â’r gweithlu
Di-waith ers cyfnod byr
Ydych newydd adael swydd neu wedi cael eich diswyddo? Ydych chi angen help ar frys i gael swydd? Rydym yma i'ch helpu! Gall ein tîm eich cynorthwyo i gael swydd yn eich ardal neu’ch helpu i symud ymlaen hefo’r cam nesaf yn eich gyrfa. Dewch atom i gael yr adnoddau y byddwch eu hangen, gan gynnwys help hefo ffurflenni cais, cyrsiau hyfforddiant, neu beth bynnag fyddwch eu hangen ar gyfer eich cam nesaf. Mae Môn CF yma i helpu!
Hyfforddiant & Cyrsiau
Cewch gyfle i wneud amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys sgiliau sylfaenol, sgiliau bywyd a datblygu gyrfa. Mae ein cyrsiau wedi eu cynllunio i fod yn ddigon hyblyg i gyd fynd â’ch anghenion personol chi. Bydd ein cyrsiau yn rai achrededig gan gynnwys rhai ar gyfer y diwydiant diogelwch a gyrru peiriant fork-lift.
Sgiliau Lleol
Ein nod yw gwella lefel sgiliau’r gweithlu yn yr ardal leol er mwyn sicrhau fod pobl Môn yn gallu llwyddo a ffynnu ym myd gwaith. Drwy gyfrwng gweithdai cymunedol a sesiynau hyfforddiant byddwn yn gallu sicrhau fod unigolion yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol hynny mae cyflogwyr eu hangen. Mae ein cysylltiadau hefo cyflogwyr lleol yn gryf gyda’r bwriad o ddod i ddeall beth yw eu hanghenion hwy a drwy eich helpu chi sicrhau fod ein cymuned yn un cryf a ffyniannus.
Ewch amdani heddiw!
Os ydych angen help i gael swydd ac yn ansicr o le i ddechrau, dewch i gysylltiad â Môn CF heddiw a gallwn eich tywys ar siwrne newydd cyffrous.
​
Cysylltwch â ni heddiw i weld sut allwn eich helpu chi i lwyddo!