Mae Môn CF yn chwilio am bobl leol i ymuno â ni yn ein menter ddiweddaraf i helpu busnesau Sir Fôn i dyfu!
Rydym wedi helpu cannoedd o fusnesau i lwyddo a symud yn eu blaenau i greu swyddi i bobl Ynys Môn.
Mae ein prosiect diweddaraf yn ceisio ehangu ar y llwyddiannau hyn drwy gefnogi busnesau newydd i gychwyn mentrau newydd.
Dyma le rydych chi’n dod i mewn!
Nod ein prosiect newydd yw adfywio canol tref Caergybi trwy’r Rhaglen Eiddo Gwag, ac rydym am i berchnogion busnes uchelgeisiol ymuno â ni wrth i ni ddechrau rhywbeth uchelgeisiol a chyffrous!
Os yw hyn yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, rydym yn awyddus i glywed gennych!
Yn y post hwn, byddwch yn darganfod mwy am ein cynlluniau a gallwch gofrestru eich diddordeb hefo ni!
Beth yw Cronfa Codi’r Gwastad?
Ym mis Ionawr 2023, cytunodd Llywodraeth y DU i gymeradwyo cais Cyngor Sir Ynys Môn am £17m o’r gronfa.
Mae’r buddsoddiad yma yn ei gyfanrwydd wedi ei glustnodi ar gyfer Caergybi er budd y gymuned leol.
Amcan tymor hir y Gronfa yw dod a mwy o fywyd i ganol y dref er mwyn i drigolion lleol ac ymwelwyr werthfawrogi’r profiadau sydd i'w cael yno.
Mae’r cyllid hwn yn dod â nifer o bartneriaid at ei gilydd (Môn CF, Canolfan Ucheldre, Cyngor Tref Caergybi, Esgobaeth Bangor) gyda’r bwriad o weddnewid y dref gan gynnig profiadau ac atyniadau newydd.
Gyda’i gilydd byddant yn creu tref sy’n le deniadol i gael profiadau amrywiol.
Mae Môn CF wedi sicrhau £4.93 miliwn o’r £17m sydd i ddod i Gaergybi fel rhan o agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU.
Sut allwch chi gymryd rhan.
Mae Môn CF yn awyddus i gynnig lleoedd yn adeilad HSBC a'r Adeilad Canolog i unigolion a mentrau lleol sy'n dymuno cynnal busnesau yn yr adeiladau hyn.
Rydym yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer unrhyw un o’r mathau canlynol o fusnes:
Caffi
Bwyty
Bragdy-micro ac Ystafell Tap
Stiwdio Ddawns
Bydd y rhent a godir gan Môn CF yn gystadleuol iawn ac yn seiliedig ar ein ffocws i greu lleoedd i fusnesau ffynnu a chreu swyddi hirdymor.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn un o’n tenantiaid allweddol, a chyfrannu at adfywio canol ein trefi, llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb cyn gynted â phosibl.
Yn ogystal, mae gennym adnoddau a mentoriaid ar gael i gefnogi eich cynlluniau busnes. Gallwn helpu i roi eich syniad ar sylfaen cadarn.
Os hoffech ragor o wybodaeth cyn llenwi'r ffurflen, cysylltwch â ni heddiw!
Mae gennym ddiddordeb mawr mewn archwilio syniadau ar gyfer busnesau a chlywed eich syniadau.
Beth yw’r Rhaglen Eiddo Gwag?
Mae elfen Môn CF o’r Gronfa Codi’r Gwastad yn anelu at drawsnewid canol tref Caergybi trwy’r Rhaglen Eiddo Gwag.
Mae’r Rhaglen Eiddo Gwag yn ymwneud â phrynu eiddo gwag amlwg yng nghanol y dref a buddsoddi yn eu hadnewyddu er mwyn darparu eiddo fforddiadwy i fusnesau lleol weithredu ohonynt.
Dros y blynyddoedd mae Môn CF wedi bod yn gweithio i ddod ag adeiladau masnachol gwag yn ôl i ddefnydd proffidiol o fewn rhai o drefi Môn.
Bydd y prosiect diweddaraf yn ein gweld yn prynu mwy o eiddo gwag a dechrau ailddefnyddio nhw yng Nghaergybi.
Y nod yw creu adeiladau cyffrous sy'n dod â bywyd yn ôl i ganol y dref.
Bydd Môn CF yn dechrau datblygu math newydd o ganol tref, yn seiliedig ar farn ac anghenion a fynegwyd gan bobl leol.
Mae'r Gronfa Codi’r Gwastad yn adlewyrchu gofynion ein cymuned leol, a bydd ei gweledigaeth yn dod â phobl yn ôl i ganol y dref.
Hanes yr Eiddo.
Y cyntaf o’r ddau eiddo rydym wedi’u prynu ydi hen adeilad HSBC.
Ar un adeg roedd y banc prysur yn cael ei defnyddio gan bobl a busnesau lleol, ond mae’r adeilad wedi bod yn wag ers i HSBC adael yn 2017.
Mae’r adeilad yn un mawr, tri llawr yn ganol tref Caergybi. Gyda’I nodweddion hanesyddol a’i gynllun unigryw, mae’n adeilad trawiadol.
Ein gweledigaeth yw trawsnewid yr adeilad yn le sy’n addas ar gyfer bwyty modern, bar, ac ystafell tap.
Mae’r llawr gwaelod yn berffaith ar gyfer y math hwn o drawsnewid oherwydd ei faint sylweddol.
Bydd y llawr cyntaf, a’r ail lawr, yn dod yn gyfres o ystafelloedd dros nos o ansawdd uchel.
Perffaith ar gyfer ymwelwyr ar arhosiad byr i’r ynys.
Yr ail adeilad yw’r Adeilad Canolog (Gyrfa Cymru gynt), sydd wedi’i leoli gyferbyn â’r hen fanc.
Wedi’i leoli ar gornel Stryd Williams a Stryd Farchnad mae’r Adeilad Canolog yn cynnwys tri llawr eang sy’n addas at lawer o ddefnyddiau.
Y weledigaeth yw adrefnu’r adeilad fel ei fod yn addas ar gyfer caffi, stiwdio ddawns, a mannau cymunedol.
Ar hyn o bryd, mae’r adeilad yn gartref i siop elusen, a fydd yn parhau i weithredu o’r adeilad.
Cyrchfannau profiadau – newid pwrpas canol y dref.
Mae Môn CF wedi sôn am y weledigaeth sydd yn seiliedig ar greu Cyrchfannau Profiadau, ond beth mae hyn yn ei olygu?
Wrth i ddiwylliant y DU barhau i newid, bydd rhaid i ganol y dref newid hefyd.
Er bod pwrpas y stryd fawr wedi newid, nid yw awydd pobl am brofiadau a lleoedd i ymweld wedi lleihau.
Pwrpas ein gweledigaeth yw newid y ffordd y mae pobl yn defnyddio’r stryd fawr.
Trwy ddefnyddio’r strwythurau sydd ar gael er budd y dre, mae cyfle i greu llefydd mae pobl eisiau ymweld!
Comments