Cefnogaeth i bobl o’r Iwcrain sy’n byw ym Môn ac yn chwilio am waith
top of page

Cefnogaeth i bobl o’r Iwcrain sy’n byw ym Môn ac yn chwilio am waith

Updated: Dec 20, 2022



Mae Môn wedi bod yn cynorthwyo unigolion, sydd wedi gorfod symud o’r Wcráin i Fôn, hefo’u sgiliau Saesneg i’w galluogi i gael gwaith yn lleol.


Ers Medi 2022, mae Anna Smith, Mentor Cyflogaeth ym Môn CF, wedi bod yn cynnal sesiynau Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, mewn lleoliadau yng Nghaergybi a Dylan’s ym Mhorthaethwy, a oedd yn cynnig lle am ddim yn eu bwyty i gefnogi'r sesiynau. Mae’r sesiynau yn neilltuol ar gyfer unigolion lle nad yw Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.



Mae Anna’n wreiddiol o’r Wcráin ac ymunodd hefo Môn CF yn Chwefror 2022 – ychydig wythnosau cyn i nifer o’i chyd Wcrainiaid ddechrau cyrraedd y wlad. Wcrainaidd yw iaith gyntaf Anna ac mae hi’n meddu ar gymhwyster CELTA (Cambridge Certificate in Teaching English to Speakers of Other Languages) sydd wedi rhoi cyfle iddi ddysgu Saesneg mewn ysgolion a sefydliadau hyfforddiant. Wrth ystyried ei rôl ddyddiol fel Mentor Cyflogaeth ym Môn CF mae Anna mewn sefyllfa wych i allu cynorthwyo pobl o’r Wcráin – sy’n byw ym Môn - i chwilio am waith drwy gyfrwng ei sesiynau. Fel sefydliad mae Môn CF yn hynod o falch o gael Anna yn ein mysg yn arbennig ei gallu i gynnal y sesiynau Saesneg i’r Wcrainiaid. Hefyd, mae Môn CF yn du hwnt o ddiolchgar i Glwb Rotari Caergybi am gyfrannu’n ariannol tuag at y sesiynau yng Nghaergybi.


Mae ystadegau’r Swyddfa Gartref yn ymwneud â nifer yr unigolion o’r Wcráin sydd wedi derbyn Visa i fyw ym Mhrydain yn dangos fod dros 115,000 wedi dod i’r DU ers cychwyn y rhaglen. Mae nifer o’r unigolion hyn wedi dod i Fôn ac wedi derbyn cymorth gan sawl asiantaeth ers dod i’n plith. Credwn fod Môn CF wedi cynorthwyo tua 25% o’r unigolion hyn hyd yma a’n bwriad yw ehangu’r Cymorth yn y misoedd nesaf. Rydym wedi cynorthwyo pobl oedd yn cael eu cyflogi mewn sawl maes yn y Wcráin gan gynnwys cyfrifwyr, cyfreithwyr, Adnoddau Dynol, rheolwyr logisteg gweithwyr siopau ac unigolion profiadol ym myd gwasanaethau cwsmeriaid.


Yn ôl Anna Smith, Mentor Cyflogaeth ym Môn CF:


“Gyda nifer cynyddol o Wcrainiaid yn dod i fyw ar Ynys Môn a’r mwyafrif yn awyddus i chwilio am waith, sylweddolais fod nifer yn cael trafferth hefo’r iaith. Roedd angen addasu’r cymorth arferol er mwyn eu galluogi i gael gwaith. Roedd angen sesiynau iaith arnynt ac es ati i drefnu sesiynau penodol i’w helpu i ddatblygu geirfa a gramadeg sy'n gysylltiedig â byd gwaith. Yn ychwanegol maent yn derbyn Cymorth gyda sgiliau darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad yng nghyd-destun cyflogaeth. Yn ogystal, mae pob elfen o’r sesiynau hyn yn plethu’n naturiol hefo ysgrifennu CV, sgiliau chwilio am swydd allweddol, strategaethau a thechnegau yn Saesneg.”



Edrychwn ymlaen at gefnogi'r unigolion hyn ymhellach i sicrhau swyddi sefydlog.

bottom of page