Beth rydym yn ei wneud:
Os ydych chi mewn gwaith, yn chwilio am waith neu’n chwilio am gyrsiau
hyfforddiant, gallwn ni eich helpu.
Byddwn yn clustnodi Mentor ar eich cyfer a bydd y Mentor yn eich helpu i ddod o hyd i’r swydd gorau posibl. Bydd yr help sydd ar gael wedi’i deilwrio’n arbennig ar eich cyfer.
Gall yr help gynnwys:
· Creu CV a llythyrau cais ar gyfer swydd
· Hyfforddiant am ddim
· Cymorth wrth chwilio am swyddi a gwneud ceisiadau
· Gwybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael i chi ym myd gwaith a’r
· amrywiaeth o swyddi sydd ar gael
· Gwella ar eich sgiliau mewn cyfweliad a’ch darparu ar gyfer cyfweliadau
· (gan gynnwys yr opsiwn am ffug gyfweliad)
· Cymorth wedi i chi gychwyn swydd
· Datblygu eich hunan hyder
· Eich cyfeirio at asiantaethau eraill a all eich helpu neu roi cymorth arbenigol
·
Sut i gael ein cymorth:
Am ragor o wybodaeth, cwblhewch ein ffurflen ymholi. Bydd aelod o’n tîm yn dod i gysylltiad â chi er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y cymorth gorau posibl.
Comentários