top of page

Grantiau Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi ar gael



Mae Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi yn cynnig arian grant i fusnesau bach a sefydliadau er mwyn hyrwyddo treftadaeth leol a’r iaith Gymraeg.


Mae grantiau o rhwng £500 a £2,000 ar gael ar gyfer prosiectau cynaliadwy a hirdymor ar gyfer pethau megis (ond nid yn gyfyngedig i) dehongli, arwyddion, cyfieithu, arwyddion dwyieithog neu waith celf - sy’n cynnig gwir groeso Cymreig i’r rhai hynny sy’n ymweld ag Ynys Cybi.


Mae’r broses grantiau yn gysylltiedig â gweledigaeth Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi sydd â’r nod o weld ‘Pobl leol yn cydweithio er mwyn amddiffyn a rheoli treftadaeth gyfoethog ein hynys, cefnogi cymuned sy’n ffynnu a rhoi croeso cynnes i ymwelwyr am genedlaethau i ddod.’


Bydd angen i’r holl grantiau:


· Hyrwyddo gweithgareddau ehangach y Cynllun Partneriaeth Tirlun

· Hyrwyddo a chyfeirio at nodweddion/canolfannau treftadaeth allweddol

· Cynnal y deunyddiau/adnoddau a ddatblygwyd am 10 mlynedd

· Dod yn rhan o Fforwm Busnes Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi


Bydd angen i bawb sy’n derbyn grant hyrwyddo gwerth dwyieithrwydd, y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig o fewn eu busnesau. Bydd cefnogaeth ar gael.


Dywedodd Rheolwr Rhaglen Partneriaeth Ynys Cybi, Efan Milner, "Mae’r Bartneriaeth yn edrych am geisiadau grant o safon a fydd yn cynorthwyo i ehangu nodweddion allweddol o dreftadaeth naturiol, cymeriad, edrychiad a threftadaeth adeiledig Ynys Cybi. Rydym hefyd yn edrych am brosiectau cadarn a fydd yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth a balchder lleol yn nhreftadaeth unigryw Ynys Cybi ac a fydd yn cynorthwyo i’w hyrwyddo fel Porth Ymwelwyr Rhyngwladol i Gymru.”


Mae’r gronfa hon yn cael ei gweinyddu gan Dîm Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi a Menter Iaith Môn. Am ffurflen gais neu os oes gennych unrhyw ymholiadau am y grant, cysylltwch â thîm Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi drwy anfon neges at:


Noder: Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi eu llenwi drwy e-bost at:

PartneriaethTirlunYnysCybi@ynysmon.gov.uk a hynny dim hywrach na dydd Gwener 5 Tachwedd 2021.


E-bostiwch ni ar info@moncf.co.uk i gael help gyda'ch ffurflen gais.


Comments


bottom of page