Mae Môn CF am ddatgan bod ein cynllun grantiau busnes wedi derbyn llawer mwy o geisiadau na’r arian sydd ar gael. Gyda grant o £100,000 (rownd 2) wedi’i sicrhau gan Lywodraeth y DU roeddem yn anelu at helpu o leiaf 50 o fusnesau.
Trwy geisio am grant arall llwyddwyd i sicrhau £400,000 ychwanegol gan Lywodraeth Cymru (grant rownd 1).
Mae'r 2 wobr sylweddol hyn wedi bod yn rhywbeth newydd sbon i Môn CF ac wedi ein galluogi i helpu busnesau ar Ynys Môn am y tro cyntaf gyda chymorth ariannol. I lawer o’r busnesau hyn dyma’r tro cyntaf iddynt dderbyn unrhyw fath o grant drwy nawdd arian cyhoeddus. Drwy’r ddwy rownd hyn rydym wedi gallu cefnogi mwy na 480 o fusnesau bach ar Ynys Môn.
Mewn byd delfrydol byddem wedi dymuno rhoi arian i'n holl ymgeiswyr, ond nid yw hyn yn bosibl. Yn rownd 2 yn unig dderbyniwyd dros £900k o geisiadau am arian ac rydym wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd sy'n golygu na fydd rhai busnesau yn derbyn grant gennym. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus Rownd 2 yn cael llai o arian nag y gwnaed cais amdano er mwyn cefnogi mwy o fusnesau.
Serch hynny, rydym yn mynd ar drywydd ffynonellau cyllid eraill a fydd, gobeithio, yn ein galluogi i ymestyn y cynllun grantiau yn y dyfodol agos. Er ein bod yn cydnabod y bydd y busnesau hynny sydd wedi gwneud cais ond sydd heb dderbyn grant yn cael eu siomi, fodd bynnag, rydym wedi ein tristáu gan rai sylwadau annymunol ac annerbyniol a wneir i'n staff.
Mae'n rhaid i ni ailadrodd mai grant dewisol yw hwn - mae hyn yn golygu bod Môn CF yn cael dweud pwy sy'n derbyn grant ai peidio. Nid oes unrhyw hawl cyfreithiol ar ran unrhyw fusnes i dderbyn grant gennym ni ac nid oes unrhyw atebolrwydd ar ôl i’n penderfyniad gael ei wneud.
Os ydych wedi gwneud cais am grant a heb fod yn llwyddiannus, gofynnwn yn barchus os byddwch yn cysylltu â Môn CF eich bod yn gwneud hynny mewn modd cwrtais.
Comments