Gofod gwneuthurwr yw Ffiws Caergybi sydd wedi'i leoli o fewn siop The Computer Geeks ar Stryd Stanley yng nghanol y Dref.
Mae Ffiws ar agor ar nos Fawrth a nos Iau ar gyfer sesiynau hyfforddi, gweithdai gwlân ac anghenion argraffu eraill.
Rydym yn hynod o falch o gael y cyfle i fod yn rhan o brosiect arloesol Ffiws dan arweiniad Menter Môn. Gyda chymaint o bwyslais ar annog pob un ohonom i ailgylchu mwy a cheisio trin hen nwyddau – yn hytrach na’u taflu – mae hi’n gyfnod euraidd i gyflwyno adnoddau newydd i gymuned Caergybi a’r cylch.
Comentarios