Mae ein swyddfa newydd ym Mangor yn agor heddiw
top of page

Mae ein swyddfa newydd ym Mangor yn agor heddiw

Updated: Aug 2, 2021


Mae Môn CF yn sefydliad wedi ei angori yn ei gymuned ac sy'n cynnig cymorth cyflogaeth, cymorth busnes a hyfforddiant i drigolion lleol Ynys Môn a Gwynedd. Gyda swyddfeydd yng Nghaergybi, Amlwch, Porthaethwy, Bangor a Chaernarfon (ar fin agor ar Ebrill 19eg, 2021), mae gennym bortffolio o oddeutu 1500 o gleientiaid: 690 o unigolion a 775 o fusnesau.


Oherwydd cyfyngiadau hefo Covid-19, mae ein tîm Gwynedd wedi bod yn gweithio gyda chleientiaid o bell ers i'r prosiect ddechrau ar Chwefror 1af. Mae'r swyddfa newydd yn Suite 4, 30 Stryd y Deon, Bangor bellach ar agor ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb sydd wedi eu trefnu ymlaen llaw.


Rydym yn cefnogi unigolion sy'n ddi-waith ac yn edrych i ailymuno â'r farchnad lafur. Mae'r Tîm Cymorth Cyflogaeth yn helpu unigolion hefo hyfforddiant, ysgrifennu CV, chwilio am swydd, cyfeirio arwyddion a llawer mwy.


Mae Môn CF yn gallu cynnig cymorth i unigolion Ynys Môn a Gwynedd drwy arian sydd wedi'i ddarparu gan Brosiect Cynhwysiant Gweithredol WCVA, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru - grantiau gwerth cyfanswm o £540,000. Bydd y Prosiect Cynhwysiant Gweithredol yn chwarae rhan fawr yn yr ymgais i hybu economi Gwynedd. Yn 2021 hyd yn hyn, rydym wedi creu dros 76 o swyddi yn yr ardal.


Mae'r Tîm Cymorth Busnes yn cynnig gwasanaeth recriwtio am ddim i fusnesau lleol, lleoliadau gwaith â thâl wedi'i ariannu'n llawn a chymorth i gael cwmnïau ar-lein gan gynnwys datblygu gwefannau a chreu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. O'r 40 o leoliadau gwaith â thâl, mae 3 o'r rhain eisoes wedi'u llenwi drwy gyflogwyr megis Colin Jones Plastering Ltd., Clinig Ffisiotherapi ac Aciwbigo Protec a Rowyn Construction. Ariennir y lleoliadau'n llawn am 16 awr yr wythnos am 16 wythnos ac maent yn gyfyngedig i gleientiaid Môn CF. Trwy gydol y lleoliad, cefnogir y cyflogwr a'r cleient i sicrhau bod y lleoliad yn rhedeg yn ddi-dor.


Yn ogystal, rydym yn Borth cofrestredig ar gyfer Cynllun Kickstart ac ar hyn o bryd mae gennym bortffolio o dros 50 o leoliadau gyda chwmnïau lleol ar Ynys Môn ac rydym yn gweithio gyda busnesau Gwynedd i greu mwy o gyfleoedd. Enghreifftiau o rhai o’r busnesau yr ydym yn cyd-weithio yw Becws Môn, DU Construction a'r G.I.G..


I fanteisio ar y cyfle yma am gymorth a hyfforddiant cyflogaeth, cwblhewch y ffurflen ymholiadau ar-lein. Ar gyfer pob ymholiad cymorth busnes a recriwtio, e-bostiwch business.support@moncf.co.uk


Rydyn ni ‘yma i helpu’.

bottom of page