Môn CF yn cael ei gydnabod fel un o’r sefydliadau cymunedol mwyaf blaenllaw yn y DU!
top of page

Môn CF yn cael ei gydnabod fel un o’r sefydliadau cymunedol mwyaf blaenllaw yn y DU!


Mae Steph a Rozzy o dîm Sgyriaus Lleol Caergybi wedi bod yn gweithio gyda'r Gymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd ac Ardaloedd dros y flwyddyn ddiwethaf, ar Fframwaith Ysbryd Cymunedol.


Mae'r ddogfen hon bellach wedi'i chwblhau, ac mae'n rhestru Môn CF fel un o'r sefydliadau cymunedol mwyaf blaenllaw yn y DU sydd wedi cyfrannu at y ddogfen.


Llongyfarchiadau i Steph, Rozzy a'r tîm sydd wedi bod yn gweithio’n ddygn drwy’r flwyddyn ddiwethaf i gadw’r ysbryd cymunedol yn fyw!


Lefel yr Ysbryd Cymunedol: Fframwaith ar gyfer mesur, gwella a chynnal ysbryd cymunedol


Astudiaeth Achos Sgwrs Leol Caergybi


Cam 5 - Daliwch ati i gyfathrebu


Parhau i ddanfon diweddariadau rheolaidd i randdeiliaid a'r gymuned ehangach, gan ddarparu cyfleoedd i bobl roi adborth, a chymryd rhan yn y prosiect. Anogwch bobl i anfon syniadau neu wybodaeth berthnasol atoch chi, ac asesu eich cyrhaeddiad - yn enwedig gyda grwpiau neu gymunedau nad ydych chi'n ymgysylltu llawer â nhw. Byddwch yn barod i weld eich gwaith yn ehangu ac i chwilio am adnoddau pellach wrth i fwy o bobl ymuno a chynnig syniadau newydd ar gyfer eu cyflwyno.


Cymunedau Ymlaen Môn, Caergybi: Nid yw ysbryd cymunedol dda yn esgeluso neb


Mae Caergybi wedi ei leoli ar Ynys Cybi, sydd yn ynys oddi ar Ynys Môn ar Arfordir Cymru. O’r 12,000 o drigolion yng Nghaergybi, mae 58% o fewn oedran gweithio, 19% dros 65 a 23% o dan 18 oed. Ganwyd 97% o’r trigolion yn y DU, gyda thua 1% yn cael eu geni yng Ngweriniaeth Iwerddon, 1% o wledydd eraill yr UE ac 1% arall o wledydd y tu allan i'r UE.


Ar hyn o bryd mae Cymunedau Ymlaen Môn yn gweithredu prosiect o'r enw'r Sgyrsiau Lleol, lle mae unigolion a grwpiau wedi'u grymuso i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned eu hunain. Mae'r 'gwahaniaeth' ar sawl ffurf, fel Caffi Ieuenctid prysur, grŵp Knit & Natter, grŵp cymorth iechyd meddwl, boreau rhieni a phlant bach a llawer mwy o wasanaethau, sy'n cael eu harwain gan y gymuned gan wirfoddolwyr sydd am fynd i'r afael ag arwahanrwydd o fewn y gymuned.


Pan darodd COVID-19, daeth y gymuned at ei gilydd. Sefydlodd y Cyngor Tref grŵp gwirfoddolwyr a helpodd i ddosbarthu parseli bwyd a hanfodion i'r rhai na allent adael eu cartref, tra bod gwirfoddolwyr eraill yn cynnig help trwy'r cyfryngau cymdeithasol. Cydnabuwyd maint yr ymdrechion hyn pan lansiodd sefydliad o fewn Sgyrsiau Lleol, ‘Cybi Events’, Wobr Arwr Caergybi a derbyniwyd dros 100 o enwebiadau am weithredoedd unigolion oedd yn dangos anhunanoldeb yn ystod pandemig COVID-19. Roedd yr unigolion hyn yn amrywio o blentyn 7 oed a bostiodd fideos ohoni ei hun yn dawnsio ar-lein i godi arian i'r GIG, i gwpl yn eu saithdegau oedd yn mynd i nol moddion ar gyfer eu cymdogion a oedd yn cysgodi.


Mae Cymunedau Ymlaen Môn hefyd yn gweithio i gefnogi busnesau lleol trwy redeg yr ymgyrch Cefnogwch Busnesau Lleol hefo ‘Fiver Fest’ yn y dref, sydd wedi'i gynllunio i gynyddu gwariant defnyddwyr mewn siopau lleol, annibynnol. Mae busnesau sy’n cymryd rhan yn marchnata cynigion arbennig o £5 am bythefnos i geisio denu mwy o fusnes iddyn nhw eu hunain, ond hefyd yn hyrwyddo eraill yn yr ardal trwy ‘gardiau anffyddlondeb’, mapiau a llwybrau fel y gall y stryd fawr gyfan elwa.

Fel rhan o hunanasesiad yr Ysbryd Cymunedol, nodwyd bod integreiddio grwpiau lleiafrifoedd ethnig i'r gymuned ehangach yn faes y mae angen ei wella. Nodwyd hefyd bod y galw am wasanaethau iechyd meddwl wedi cynyddu'n aruthrol o ganlyniad i COVID-19, a fydd yn rhoi mwy o straen ar ddarpariaeth gwasanaeth sydd eisoes yn gyfyngedig iawn.


Ar ôl gweld tystiolaeth mor gryf o bobl yn gweithredu ar y cyd yn y dref ers i'r achosion ddechrau, mae Cymunedau Ymlaen Môn yn bwriadu ymgynghori â sefydliadau rhanddeiliaid eraill i nodi unrhyw faterion eraill a allai fod yn effeithio ar y gymuned yn ogystal â ffyrdd o weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â hwy. Maent hefyd yn gobeithio holi preswylwyr ar eu barn am ysbryd cymunedol Caergybi pan fydd y mesurau cloi cenedlaethol wedi lleddfu, fel eu bod yn cyrraedd y rhai nad ydynt fel arfer yn ymgysylltu â'r sefydliad a'r rhai nad oes ganddynt yr offer, y sgiliau na'r hyder i gymryd rhan ar-lein.

bottom of page