top of page

Rhaglen Eiddo Gwag - Diweddariad Medi 2024

Ar ôl rhai misoedd o ddisgwyl cyn dechrau’r gwaith ar y ddau adeilad, rydym yn falch o gael dweud fod yna newyddion i’w rannu hefo chi.

Lluniau gan Môn Interiors


Yn ddiweddar rhoddwyd cyfle i bobl leol ddysgu mwy am yr hyn sydd gennym ar y gweill.


Roedd hyn yn cynnwys cyfle i bobl fynd rownd y ddau adeilad, gan roi syniad o’u cyflwr ar hyn o bryd a’r cynlluniau ar eu cyfer.


Bydd y gwaith trin yn cychwyn yn fuan gan gynnwys dymchwel rhai o'r strwythurau mewnol.


Os na chawsoch chi gyfle i fynd rownd yr adeiladau, peidiwch â phoeni!


Yn y datganiad hwn, byddwn yn rhoi braslun o’r prosiect ac yn cynnwys lluniau o'r hyn sydd i’w ddod yn yr adeiladau.


Beth yw’r rhaglen eiddo gwag?

Bwriad y Rhaglen Eiddo Gwag ydi ailddatblygu rhai o adeiladau gwag mwyaf blaenllaw yng Nghaergybi.


Mae'r prosiect yn cynnwys adnewyddu dau safle eithaf mawr, er mwyn creu adeiladau modern a defnyddiol fydd yn cael eu rhentu i fusnesau lleol am bris fforddiadwy.


Y nod yw creu llefydd y bydd pobl eisiau ymweld â nhw a gwneud canol y dref yn le deniadol unwaith eto. Tymor hir y bwriad yw denu mwy o ymwelwyr a thrigolion lleol i ganol Caergybi.


Ymysg yr adeiladau mae’r hen fanc HSBC a chyn gartref Gyrfa Cymru (Central Buildings).



Diweddariad Adeiladau Môn CF


Hen Adeilad HSBC

Hen fanc HSBC yw’r prosiect mwyaf yn ein portffolio hyd yma.


Gan fod angen cryn waith adnewyddu roedd rhaid mynd allan am brisiau gan gwmnïau adeiladu. Yn anffodus, oherwydd effaith chwyddiant a chynnydd mewn costau deunyddiau cynyddol cafwyd anhawster yn cael prisiau oedd yn dderbyniol i ni.


Roedd rhaid i ni ail-edrych ar ein cynlluniau ar gyfer yr adeilad er mwyn ceisio torri lawr ar gostau adnewyddu. Dyma’r prif reswm dros yr oedi cyn cychwyn ar y gwaith trin ac adnewyddu.


Serch y newidiadau i’r cynlluniau yn y bôn ni fydd defnydd terfynol yr adeilad yn newid. Bydd y llawr gwaelod yn dod yn fwyty ar un ochr ac yn ystafell dap cwrw crefft leol ar a llall. Bydd y ddau lawr uchaf yn dod yn ystafelloedd aros dros nos.


Lluniau o sut fydd adeilad HSBC yn edrych ar ôl y gwaith

Diolch i gwmni pensaerniaeth DEWIS Architecture






Adeiladau Canolog (Gyrfa Cymru gynt)

Adeilad mawr wedi ei leoli yng nghanol Caergybi (Gyrfa Cymru gynt). Bydd yr adeilad yma’n cael ei droi’n gaffi (llawr gwaelod) a stiwdio ddawns (llawr 1 a 2) .


Unwaith eto, achos effaith chwyddiant roedd angen i ni ail edrych ar ein cynlluniau er mwyn sicrhau arbedion ar y costau adnewyddu.


Mae’r newidiadau wedi bod yn rhai sydd wedi’n galluogi i barhau hefo’r syniad gwreiddiol o ran defnydd o’r adeilad.


Lluniau o sut fydd Central Buildings yn edrych ar ôl y gwaith

Diolch i gwmni pensaerniaeth DEWIS Architecture





Am mwy o wybodaeth, cysylltwch a Môn CF ar 01407 762 004





Recent Posts

See All

Comments


bottom of page