Mae Grantiau Busnes yn ôl!
top of page

Mae Grantiau Busnes yn ôl!



Mae Grantiau Busnesau Bach yn ôl ar Ynys Môn!


Ymunwch â ni ar gyfer Digwyddiad Gwybodaeth a Lansio Grantiau Môn CF!


Mae Môn CF yn gadael i berchnogion busnesau lleol ddarganfod yr holl gefnogaeth sydd ar gael drwy Môn CF!


Bydd y digwyddiad yn lansio'r rownd nesaf o Grantiau Busnes Bach!


Mae'r grantiau hyd yma wedi helpu cannoedd o fusnesau bach ar Ynys Môn i dyfu a chynyddu!


Os ydych chi'n berchennog busnes bach, yn fasnachwr unigol hunangyflogedig, neu os oes gennych chi syniad busnes yr hoffech ei drafod, mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi!



 

Am y Digwyddiad


Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i fusnesau bach ddarganfod yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael ar Ynys Môn!


Cewch wybodaeth am Môn CF, a’r hyn sydd ar gael I chi a’ch busnes.


Bydd ein timau wrth law i roi cyngor a chymorth ym mhob agwedd or fusnes, gan gynnwys:


  • Grantiau a Chyllid - Cefnogi datblygiad a thwf busnesau lleol.

  • Lleoliadau Gwaith â Thâl - Helpu busnesau i fanteisio ar dalent a datblygu'r farchnad swyddi ar Ynys Môn.

  • Cefnogaeth Cyflogaeth – Help I chi ddatblygu eich gweithlu.

  • Gwasanaethau Recriwtio Am Ddim - I helpu busnesau i ddod o hyd i'r bobl iawn a llenwi swyddi’n gyflym.

  • Dylunio Gwe a Marchnata – Help hefo brandio’ch busnes a mynd ar lein.

  • Hyfforddiant - Helpu I ddatblygu [obl a busnensu Ynys Môn drwy hyfforddiant pwrpasol.

 

Bydd cynrychiolwyr asiantaethau hefyd yn y digwyddiad i roi cymorth i fusnesau.


Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ynys Môn, Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, FSB, a Menter Môn yn bresennol, gyda mwy i’w cyhoeddi’n fuan!



People talking at the last Môn CF grants launch
Mae Môn CF yn helpu busnesau bach i ddarganfod y cyfoeth o gefnogaeth sydd ar gael i'w helpu i dyfu.


 

Pam ddylwn i ddod?


Daeth dros 300 o fusnesau i’n digwyddiad diwethaf, ac o ganlyniad, cawsant y cymorth yr oedd ei angen arnynt i dyfu!


Rydym am helpu hyd yn oed mwy o fusnesau ar Ynys Môn drwy gymorth ymarferol a grantiau.


Dyna pam mae ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yng Ngwesty Bulkeley ym Miwmares. Os ydych yn mynychu’r noson cewch wybod yn gynnar am y grant a sut i’w hawlio.


"Bydd pawb sy'n mynychu'r digwyddiad yn cael Y CYFLE CYNTAF i wneud cais am grant!"


 

Pryd a ble mae'r Digwyddiad?



Lansio Noson Wybodaeth a Grantiau Môn CF:

Ebrill 11eg

3pm - 8pm

Gwesty Bulkeley, 19 Stryd y Castell, Biwmares, LL58 8AW



 

Sut ydw i'n cofrestru?


Mae cofrestru ar gyfer digwyddiad Gwybodaeth a Grantiau Môn CF yn hawdd.


Rydym yn deall bod rhedeg busnes yn golygu eich bod yn brysur. Mae modd I chi bwcio slot I weld un o’n staff ar y noson, ymlaen llaw.


Dilynwch y ddolen isod, dewiswch amser sy'n addas i chi ac archebwch eich tocyn.


Mae mynediad i’r digwyddiad yn hollol AM DDIM, a dim ond ychydig funudau y mae cofrestru’n ei gymryd.




bottom of page