top of page
Start your Journey Today.



Sut allwn ni helpu?
Training
Our experienced training team offer a comprehensive suite or accredited courses and qualification for individuals, schools and employers.
Employment Support
If your're unemployed or already working, we have support available to help you develop your skills and progress in the world of work.
Community Projects
Our projects empower individuals and groups to make a difference within their own community.
Business Support
Thinking about starting your own business? We are on-hand with the support you need to start something great.


Training
Our experienced training team offer a comprehensive suite or accredited courses and qualification for individuals, schools and employers.
Employment Support
If your're unemployed or already working, we have support available to help you develop your skills and progress in the world of work.
Looking for a job?
Discover our Employment Support Service designed to assist both the unemployed and those currently in work.
We offer personalized guidance, resources, and tools to help you navigate your career journey.
Want to learn more?
To learn more about the service and the journey you will take, visit the Employment Support page or reach out.
Stay in the loop!
Loading days...
1 hr
39 punt Prydain
MAE
MÔN MULTIPLY
WEDI CYRRAEDD!
Mae Môn Multiply yn fenter newydd a ddechreuwyd i helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd.
Os ydych chi'n 19 oed a throsodd ac nad oes gennych chi TGAU Mathemateg Gradd C (neu gyfwerth) gallwch gael mynediad i'n Rhaglenni Sgiliau Bywyd AM DDIM!


MAE
MÔN MULTIPLY
WEDI CYRRAEDD!
Mae Môn Multiply yn fenter newydd a ddechreuwyd i helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd.
Os ydych chi'n 19 oed a throsodd ac nad oes gennych chi TGAU Mathemateg Gradd C (neu gyfwerth) gallwch gael mynediad i'n Rhaglenni Sgiliau Bywyd AM DDIM!
Newyddion

Rhaglen Eiddo Gwag - Diweddariad Medi 2024
25 Medi 2024
Ar ôl rhai misoedd o ddisgwyl cyn dechrau’r gwaith ar y ddau adeilad, rydym yn falch o gael dweud fod yna newyddion i’w rannu hefo chi. Lluniau gan Môn Interiors Yn ddiweddar rhoddwyd cyfle i bobl leol ddysgu mwy am yr hyn sydd gennym ar y gweill. Roedd hyn yn cynnwys cyfle i bobl fynd rownd y ddau adeilad, gan roi syniad o’u cyflwr ar hyn o bryd a’r cynlluniau ar eu cyfer. Bydd y gwaith trin yn cychwyn yn fuan gan gynnwys dymchwel rhai o'r strwythurau mewnol. Os na chawsoch chi gyfle i fynd rownd yr adeiladau, peidiwch â phoeni! Yn y datganiad hwn, byddwn yn rhoi braslun o’r prosiect ac yn cynnwys lluniau o'r hyn sydd i’w ddod yn yr adeiladau. Beth yw’r rhaglen eiddo gwag? Bwriad y Rhaglen Eiddo Gwag ydi ailddatblygu rhai o adeiladau gwag mwyaf blaenllaw yng Nghaergybi. Mae'r prosiect yn cynnwys adnewyddu dau safle eithaf mawr, er mwyn creu adeiladau modern a defnyddiol fydd yn cael eu rhentu i fusnesau lleol am bris fforddiadwy. Y nod yw creu llefydd y bydd pobl eisiau ymweld â nhw a gwneud canol y dref yn le deniadol unwaith eto. Tymor hir y bwriad yw denu mwy o ymwelwyr a thrigolion lleol i ganol Caergybi. Ymysg yr adeiladau mae’r hen fanc HSBC a chyn gartref Gyrfa Cymru (Central Buildings). Diweddariad Adeiladau Môn CF Hen Adeilad HSBC Hen fanc HSBC yw’r prosiect mwyaf yn ein portffolio hyd yma. Gan fod angen cryn waith adnewyddu roedd rhaid mynd allan am brisiau gan gwmnïau adeiladu. Yn anffodus, oherwydd effaith chwyddiant a chynnydd mewn costau deunyddiau cynyddol cafwyd anhawster yn cael prisiau oedd yn dderbyniol i ni. Roedd rhaid i ni ail-edrych ar ein cynlluniau ar gyfer yr adeilad er mwyn ceisio torri lawr ar gostau adnewyddu. Dyma’r prif reswm dros yr oedi cyn cychwyn ar y gwaith trin ac adnewyddu. Serch y newidiadau i’r cynlluniau yn y bôn ni fydd defnydd terfynol yr adeilad yn newid. Bydd y llawr gwaelod yn dod yn fwyty ar un ochr ac yn ystafell dap cwrw crefft leol ar a llall. Bydd y ddau lawr uchaf yn dod yn ystafelloedd aros dros nos. Lluniau o sut fydd adeilad HSBC yn edrych ar ôl y gwaith Diolch i gwmni pensaerniaeth DEWIS Architecture Adeiladau Canolog (Gyrfa Cymru gynt) Adeilad mawr wedi ei leoli yng nghanol Caergybi (Gyrfa Cymru gynt). Bydd yr adeilad yma’n cael ei droi’n gaffi (llawr gwaelod) a stiwdio ddawns (llawr 1 a 2) . Unwaith eto, achos effaith chwyddiant roedd angen i ni ail edrych ar ein cynlluniau er mwyn sicrhau arbedion ar y costau adnewyddu. Mae’r newidiadau wedi bod yn rhai sydd wedi’n galluogi i barhau hefo’r syniad gwreiddiol o ran defnydd o’r adeilad. Lluniau o sut fydd Central Buildings yn edrych ar ôl y gwaith Diolch i gwmni pensaerniaeth DEWIS Architecture Am mwy o wybodaeth, cysylltwch a Môn CF ar 01407 762 004
Rhaglen Eiddo Gwag - Diweddariad ar eiddo Môn CF
9 Gorff 2024
Mae dipyn o amser wedi mynd heibio ers i ni roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy’n cael ei wneud drwy ein Prosiect Eiddo Gwag sy’n digwydd yng Nghanol Tref Caergybi. Mae’r prosiect wedi’i effeithio gan ffactorau y tu allan i’n rheolaeth, fel costau byw a chwyddiant, sydd wedi achosi oedi annisgwyl i’r gwaith. Fodd bynnag, roeddem yn awyddus i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith rydym yn ei wneud yng Nghaergybi, ac i adael i chi wybod fod y cynlluniau’n dal i fynd ymlaen – er eu bod wedi’u dal yn ôl ychydig o gymharu â’n cynllun gwreiddiol. Yn y post hwn, byddwn yn rhoi crynodeb o amcanion y prosiect, ac yn rhoi diweddariad i chi ar bob adeilad, er mwyn i chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Gwaith arnynt. Be ydi’r Rhaglen Eiddo Wag? Mae'r prosiect yn ymwneud â phrynu eiddo gwag, a buddsoddi yn eu hadnewyddu, i ddarparu eiddo fforddiadwy i fusnesau a thrigolion lleol fyw neu weithio ynddynt. Ein huchelgais yw creu mannau y mae pobl eisiau ymweld â nhw a gwneud canol y dref yn gyrchfan ar gyfer profiadau a chynyddu nifer yr ymwelwyr i’r dref yn gyffredinol a bod o fudd i bawb yma yn y tymor hir. Mae'r adeiladau'n cynnwys yr hen HSBC, Central Buildings (hen swyddfa Gyrfa Cymru), 9 Stryd Stanley, 14a a 14b Stryd Stanley (hen County Stationers). Diweddariad Adeiladau Môn CF: Hen Adeilad HSBC: Dyma'r mwyaf o'n prosiectau ac mae'n cymryd mwy o amser nag yr oeddem wedi gobeithio wrth gychwyn ar y cynllun. Mae’r cynnydd dramatig mewn costau adeiladu oherwydd chwyddiant wedi golygu na allai ein cyllideb wreiddiol gyflawni’r hyn yr oeddem wedi’i gynllunio’n wreiddiol, felly bu’n rhaid i ni ddiwygio ein cynlluniau i ddod â’r costau adeiladu i lawr. Ni fydd defnydd yr adeilad yn y tymor hir yn newid yn sylfaenol gyda'r llawr gwaelod yn fwyty ac yn ystafell tap cwrw crefft leol ar wahân. Bydd y 2 lawr uchaf yn ystafelloedd llety dros nos. Mae'r tendr diwygiedig yn dal yn fyw am wythnos arall ar wefan felly byddwn yn gwybod cyn diwedd mis Gorffennaf pwy fydd y contractwr llwyddiannus. Ym mis Awst byddwn yn gweld gwaith yn dechrau ar yr adeilad gyda'r holl waith i'w gwblhau erbyn diwedd Awst 2025. Central Buildings (hen swyddfa Gyrfa Cymru): Mae hwn hefyd yn adeilad mawr yng nghanol y dref. Am resymau tebyg i'r HSBC, mae chwyddiant wedi cael effaith andwyol ar ein cynllun gwreiddiol. Rydym wedi cwtogi rhywfaint ar y gwaith ar yr adeilad er mwyn sicrhau ein bod yn cael y prosiect yn ôl o fewn y gyllideb. Bydd defnydd yr adeilad yn aros yr un fath sef caffi ar y llawr gwaelod a stiwdio drama a dawns ar y 2 lawr uchaf. Mae’r tendr ar gyfer y gwaith hwn hefyd ar wefan GwerthwchiGymru a disgwylir iddo gau'r wythnos nesaf, a disgwyliwn benodi contractwr adeiladu ddiwedd mis Gorffennaf 2024. Bydd gwaith ar yr adeilad yn dechrau ym mis Awst 2024 gyda dyddiad cwblhau tua mis Mehefin 2025. 9 Stryd Stanley: Disgwylir i'r adeilad hwn gael ei gwblhau erbyn mis Awst 2024 ac mae'n cael ei adnewyddu ar hyn o bryd gan Adeiladwyr Môn Cyf. Bydd y llawr gwaelod yn siop sy'n gwerthu sebon a wnaed yn lleol ac eitemau eraill wedi'u gwneud â llaw. Fflat 2 ystafell wely newydd fydd y ddau lawr uchaf. Bydd hwn yn cael ei gynnig i'w rentu i deulu lleol yn fuan. 14a a 14b Stryd Stanley (hen County Stationers): Mae'r adeilad hwn yn profi'n eithaf trafferthus. Mae arolwg wedi canfod Trawstiau Dur diffygiol ar lefel y llawr cyntaf. Bydd yn rhaid ailosod y Trawstiau Dur hyn cyn y gellir dechrau unrhyw waith ar yr adeilad. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud erbyn diwedd 2024, a disgwylir y bydd y gwaith adnewyddu llawn yn dechrau yn gynnar yn 2025 a’i gwblhau yn haf 2025. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Môn CF ar 01407 762 004
Mae Grantiau Busnes yn ôl!
11 Maw 2024
Mae Grantiau Busnesau Bach yn ôl ar Ynys Môn! Ymunwch â ni ar gyfer Digwyddiad Gwybodaeth a Lansio Grantiau Môn CF! Mae Môn CF yn gadael i berchnogion busnesau lleol ddarganfod yr holl gefnogaeth sydd ar gael drwy Môn CF! Bydd y digwyddiad yn lansio'r rownd nesaf o Grantiau Busnes Bach! Mae'r grantiau hyd yma wedi helpu cannoedd o fusnesau bach ar Ynys Môn i dyfu a chynyddu! Os ydych chi'n berchennog busnes bach, yn fasnachwr unigol hunangyflogedig, neu os oes gennych chi syniad busnes yr hoffech ei drafod, mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi! Am y Digwyddiad Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i fusnesau bach ddarganfod yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael ar Ynys Môn! Cewch wybodaeth am Môn CF, a’r hyn sydd ar gael I chi a’ch busnes. Bydd ein timau wrth law i roi cyngor a chymorth ym mhob agwedd or fusnes, gan gynnwys: Grantiau a Chyllid - Cefnogi datblygiad a thwf busnesau lleol. Lleoliadau Gwaith â Thâl - Helpu busnesau i fanteisio ar dalent a datblygu'r farchnad swyddi ar Ynys Môn. Cefnogaeth Cyflogaeth – Help I chi ddatblygu eich gweithlu. Gwasanaethau Recriwtio Am Ddim - I helpu busnesau i ddod o hyd i'r bobl iawn a llenwi swyddi’n gyflym. Dylunio Gwe a Marchnata – Help hefo brandio’ch busnes a mynd ar lein. Hyfforddiant - Helpu I ddatblygu [obl a busnensu Ynys Môn drwy hyfforddiant pwrpasol. Bydd cynrychiolwyr asiantaethau hefyd yn y digwyddiad i roi cymorth i fusnesau. Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ynys Môn , Busnes Cymru , Banc Datblygu Cymru, FSB , a Menter Môn yn bresennol, gyda mwy i’w cyhoeddi’n fuan! Pam ddylwn i ddod? Daeth dros 300 o fusnesau i’n digwyddiad diwethaf, ac o ganlyniad, cawsant y cymorth yr oedd ei angen arnynt i dyfu! Rydym am helpu hyd yn oed mwy o fusnesau ar Ynys Môn drwy gymorth ymarferol a grantiau. Dyna pam mae ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yng Ngwesty Bulkeley ym Miwmares. Os ydych yn mynychu’r noson cewch wybod yn gynnar am y grant a sut i’w hawlio. "Bydd pawb sy'n mynychu'r digwyddiad yn cael Y CYFLE CYNTAF i wneud cais am grant!" Pryd a ble mae'r Digwyddiad? Lansio Noson Wybodaeth a Grantiau Môn CF: Ebrill 11eg 3pm - 8pm Gwesty Bulkeley, 19 Stryd y Castell, Biwmares, LL58 8AW Sut ydw i'n cofrestru? Mae cofrestru ar gyfer digwyddiad Gwybodaeth a Grantiau Môn CF yn hawdd. Rydym yn deall bod rhedeg busnes yn golygu eich bod yn brysur. Mae modd I chi bwcio slot I weld un o’n staff ar y noson, ymlaen llaw. Dilynwch y ddolen isod, dewiswch amser sy'n addas i chi ac archebwch eich tocyn. Mae mynediad i’r digwyddiad yn hollol AM DDIM , a dim ond ychydig funudau y mae cofrestru’n ei gymryd.
bottom of page