Sw Môr Môn yn cyflogi tri Chynorthwyydd Kickstart trwy Môn CF
top of page

Sw Môr Môn yn cyflogi tri Chynorthwyydd Kickstart trwy Môn CF


Yr haf yma, mae Sw Môr Môn wedi cyflogi tri pherson ar Gynllun Kickstart Llywodraeth y DU, gyda'n help ni!


Mae ein Tîm Cymorth Cyflogaeth wedi bod yn gweithio gyda'n cleientiaid i'w paratoi ar gyfer gwaith ac mae ein Tîm Cymorth Busnes wedi bod yn gweithio gyda Sw Môr Môn i ddod o hyd i'r bobl orau ar gyfer y swydd!





Connor Davies, 24, Cynorthwyydd Caffi



“Ni fyddwn wedi clywed am y swydd oni bai fy mentor wedi dweud wrthaf amdani.”







Ar ddechrau'r flwyddyn, aeth Connor Davies, o Fynydd Llandygai i Ganolfan Swyddi Bangor i arwyddo i Gredyd Cynhwysol. Cafodd ei gyfeirio at Môn CF gan ei hyfforddwr gwaith i wneud cais am swydd Kickstart. Cefnogwyd Connor gan ei fentor, Katie, i ymgeisio am rolau ac mae wedi cwblhau ei COSHH a'i Hyfforddiant Cymorth Cyntaf. Mae Connor wedi gweithio yn Sw Môr Môn ers mis Gorffennaf a dywedodd, “ni fyddwn wedi clywed am y swydd oni bai fy mentor wedi dweud wrthaf amdani.” Roedd Connor allan o waith am gyfnod, felly mae'n credu bod swydd gaffi yn lle da i ddechrau “mae'r staff yn gwych, cyfeillgar, yn hawdd gweithio gyda nhw.” Roedd yn hoff o ymweld â sw y môr fel plentyn ac yn y pen draw hoffai fynd i mewn i waith cadwraeth.






Daniel Rees, 20, Cynorthwyydd Chwarae a Chynnal a Chadw



“Dyma’r swydd orau ‘dwi erioed wedi gael.”







Yn wreiddiol o Coventry, mae Daniel bellach yn byw yn Waun Fawr ac wedi bod yn gweithio yn Sw Môr Môn ers mis Mehefin. Mae rôl Daniel yn cynnwys cynnal a chadw'r ardaloedd allanol gan gynnwys y castell bownsio, y cwrs golff a'r maes chwarae; sicrhau bod popeth yn lân ac yn ddiogel i bawb ei ddefnyddio.


Astudiodd Daniel Les Anifeiliaid yn Glynllifon am ddwy flynedd a gweithiodd mewn parc gwyliau yn glanhau carafanau o’r blaen. Roedd Daniel yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i waith, ond mae bellach yn gweithio 25 awr yr wythnos ac yn mwynhau'r cyfle i gwrdd â phobl newydd.


Felicity Jerams, 22, Cynorthwyydd Acwariwr


Symudodd Felicity o Warrington i astudio Bioleg Forol a Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor. Cyn hynny, roedd hi wedi gweithio yn Sw Caer am flwyddyn fel Acwariwr, mae hi bellach yn gweithio llawn amser yn Sw Môr Môn fel Cynorthwyydd Acwariwr. Mae Felicity yn mwynhau'r agwedd o wynebu pobl yn ei rôl ac ochr gadwraeth pethau. Mae hi'n darparu sgyrsiau trwy gydol y dydd ac mae'n angerddol am addysgu'r ymwelwyr a'r cyhoedd i fod yn fwy cynaliadwy.





bottom of page