Cynllun Kickstart | Môn CF
top of page
thisisengineering-raeng-sGwoXcxKbcE-unsp

KICKSTART SCHEME

Cyfleoedd gwaith taledig i bobl ifanc 16-24 oed gyda busnesau ledled Ynys Môn a Gwynedd, trwy Gynllun Kickstart y Llywodraeth.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn:

  • 16-24 oed

  • yn ddi-waith

  • Hawlio Credyd Cynhwysol

Mi fydd pob swydd yn:

  • 25 awr yr wythnos

  • am 6 fis

  • Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Gall ein tîm cymorth cyflogaeth eich helpu chi i:

  • Wneud cais am Gredyd Cynhwysol (os yw'n gymwys)

  • Greu / diweddaru eich CV

  • Gwblhau ffurflenni cais

  • Baratoi ar gyfer cyfweliadau swyddi Lleoliad Kickstart

Kicksart List

SUT I WNEUD CAIS

I wneud cais, siaradwch â'ch hyfforddwr gwaith yn y Ganolfan Swyddi am atgyfeiriad.

Beth yw'r Cynllun Kickstart?

Mae Cynllun Kickstart yn lleoliad gwaith hefo tâl chwe mis gyda chyflogwr lleol, wedi'i ariannu gan y Llywodraeth. Mae'n darparu cyfle i bobl ifanc gael profiad gwaith â chyflog yr un pryd. Bydd y lleoliadau chwe mis yn parhau am 25 awr yr wythnos ar Isafswm Cyflog Cenedlaethol; gall y cyflogwr ddewis cynnig oriau uwch a / neu gyflog uwch.

​

Mae Cynllun Kickstart a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn anelu at gynnig cannoedd ar filoedd o gyfleoedd gwaith dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae pot arian gwerth £2 biliwn ar gael i ariannu swyddi yn llawn gyda busnesau ledled y DU, a bydd rhai ohonynt gyda busnesau lleol yn Ynys Môn.

bottom of page