Mae Dion Williams, 24 oed, o Felinheli a Jac Jones, 22 oed, o Llangefni yn rhagori yn eu lleoliadau Cynllun Kickstart fel Cigydd / Cynorthwywyr Ffatri dan Hyfforddiant yn Llechwedd Meats.
Mae Llechwedd Meats, sydd wedi'i leoli ym Mharc Bryn Cefni, Llangefni yn gigyddion arobryn Gogledd Cymru sy'n cyflogi 53 aelod o staff. Y contract cyflenwi mwyaf y maent yn ei gyflawni yw cyflenwi ffreuturau ysgolion Ynys Môn a Gwynedd, cynradd ac uwchradd.
Mae Dion a Jac dros hanner ffordd trwy eu lleoliad Kickstart 6 mis ac yn joio. Mae'r ddau ohonyn nhw'n ymwneud yn helaeth ag elfennau cynhyrchu bwyd a phecynnu cyffredinol y broses ffatri.
Mae Dion wedi newid diwydiant ac wedi mynd o waith daear i “Burger Master”. Yn 2018, roedd Dion yn gweithio yn St David’s Park, Traeth Coch fel gweithiwr daear, ar ôl amser allan o waith, penderfynodd Dion i ffeindio waith eto. Dywedodd Dion:
“Eleni, penderfynais i wneud mwy o ymdrech, felly mi wnes i fynd i Môn CF ym Mangor. Ers gweithio yma mae fy hyder wedi tyfu, rwy'n hapus i fod yn ôl yn y gwaith, roeddwn i'n eithaf swil.”
Roedd Jac yn gweithio yn ‘The Book People’ am 9 mis, nes iddynt gau ym mis Ebrill 2020. Nid oedd Jac yn gallu dod o hyd i waith nes iddo gael ei arwyddo gan y Ganolfan Swyddi tuag at y lleoliad hwn ac mae wrth ei fodd.
Mae Myfanwy, Archwilydd Iechyd a Diogelwch yn Llechwedd Meats wedi mynegi bod Jac a Dion yn perfformio'n dda yn eu rolau, ac mae'n falch o'u cynnydd:
“Maen nhw'n gwneud yn dda iawn, methu gofyn am fwy.”
Oes gennych chi ddiddordeb mewn lleoliad Cynllun Kickstart?
Comentarios