Pam ddaethoch chi at Môn CF?
Soniodd fy Work Coach yn y Ganolfan Waith am Môn CF. Dywedwyd y gall Môn CF helpu hefo CV, help i gael hyd i waith a chyfleoedd i wneud hyfforddiant wrth chwilio am swydd. Gyda chefndir mewn gwaith swyddfa roeddwn yn chwilio am waith tebyg ond fy mhrif flaenoriaethau oedd gwaith parhaol oedd yn fy ngalluogi i edrych ar ôl fy mhlant.
Wnaethoch chi unrhyw hyfforddiant?
Do, trefnodd fy Mentor ym Môn CF i mi fynychu sawl cwrs gan gynnwys Codi a Chario â Llaw, Iechyd & Diogelwch, Cymorth Cyntaf a Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl. Roedd y cwbl yn ddefnyddiol iawn – nid yn unig i ychwanegu yn fy CV ond cefais hwb i fy hyder a gwneud i mi deimlo’n barod ar gyfer dychwelyd i fyd gwaith.
Wnaethoch chi wneud unrhyw wirfoddoli neu brofiad gwaith?
Do. Er bod gennyf brofiad o waith gweinyddol yn barod roeddwn yn awyddus i ddiweddaru fy sgiliau. Felly, trefnodd fy Mentor brofiad gwaith am dair wythnos ym Môn CF. Roeddwn yn helpu yn y dderbynfa ac yn y swyddfa Gyllid. Roedd hyn yn brofiad gwych ac yn sylfaen ar gyfer y swydd dwi’n ei wneud rŵan.
Be da chi’n ei wneud rŵan?
Dwi’n gweithio i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn yr Ysgol Glinigol Gogledd Cymru. Teitl ffurfiol fy swydd ydi Cydlynydd Israddedigion - a dwi’n trefnu profiad gwaith clinigol ar gyfer myfyrwyr. Daeth y cwbl i mi yn sgil cytuno i fynd ar raglen Camu i Waith a chefais flaenoriaeth i fynd ar drefniadau Ymgyfarwyddo’r G.I.G., rhaglen hyfforddi ar-lein a phrofiad gwaith di-dâl yn yr adran lle dwi’n gweithio rŵan. Ni allaf or-ganmol y rhaglen yn enwedig i unrhyw un sydd am weithio yn y gwasanaeth iechyd.
Be’ da chi’n feddwl ydi’r peth gorau am Môn CF?
Heb Môn CF, eu Cymorth a’u hagwedd ‘mynd amdani rŵan’, ni fuaswn yn gwneud y swydd yma. Yn gyffredinol, mae bod yn ddi-waith yn ddiflas a llawn poen meddwl ond gyda Môn CF yn eich helpu roedd yn teimlo fod yna dîm cyfan o bobl yna yn barod i’m helpu. Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch o waelod calon am yr help a gefais.
Comments