Aethon ni i weld Laura ar-shift yn ddiweddar, ac roedd hi yn ei elfen yn ei hamgylchedd gwaith newydd. Dyma beth oedd gan Laura i'w ddweud:
“Fel mam i ddau blentyn bach a bod allan o waith am 5 mlynedd, penderfynais ei bod yn bryd gwneud rhywbeth i mi fy hun a chael fy hun yn ôl i'r gweithle.
Yn ôl ym mis Ionawr, penderfynais fy mod i eisiau dod yn Achubwr Bywyd, ond i fod yn onest, doedd gen i ddim syniad sut i fynd ati i wneud hyn. Roeddwn i wedi clywed am Môn CF yn helpu i integreiddio pobl yn ôl i'r gweithle, felly penderfynais roi siawns iddyn nhw, a wnes i erioed edrych yn ôl!
Mae'r gefnogaeth, yr anogaeth a'r cyngor a gefais gan y cwmni hwn wedi bod yn rhagorol - 10/10! Rwyf eisiau ddweud diolch arbennig i Guto Williams a helpodd fi gyda phob cam o'r broses; o ymgeisio am y rôl i ddechrau, fy rhoi trwy'r hyfforddiant a rhoi awgrymiadau a chyngor i mi ar sgiliau cyfweld. Daeth yn debycach i ffrind na mentor a rhywun roedd gen i hyder ynddo i fy helpu. Gosodais fy nghalon at rywbeth, a gyda chymorth Môn CF cyflawnais yr hyn yr oeddwn yn bwriadu ei wneud.
Rydw i bellach ‘di bod yn fy rôl newydd ers ychydig wythnosau ac mae wedi bod mor werth chweil cael pwrpas mewn bywyd eto, heblaw am fod yn Mam, ac mae'n gwneud i mi deimlo mor falch pan fydd y bechgyn yn fy ngweld yn fy ngwisg waith ac yn gweiddi “Mae mam yn gallu achub pobl!” Diolch eto i Môn CF!”
Dywedodd Colin, Rheolwr Dyletswydd:
“Rydyn ni’n falch o’i chael hi ar y tîm. Rydyn ni wedi derbyn adborth gwych ac mae hi'n gwneud yn dda iawn.”
Trwy gyllid Cymunedau dros Waith a Mwy, llwyddodd Môn CF i ariannu cwrs achub bywyd Laura. Ochr yn ochr â gweithio, mae Laura hefyd yn astudio i ddod yn athrawes nofio, mae hi'n agosáu at ddiwedd ei hyfforddiant a chyn bo hir bydd hi'n gymwysedig. Nofiodd Laura, sy'n wreiddiol o Llanrwst, yn gystadleuol am flynyddoedd felly mae nofio yn angerddol amdani, mae'n mwynhau elfen achubwr bywyd ei swydd ac ni all aros i ddod yn athrawes.
Comments