Floyd Chapman, Cynorthwyydd Cynhyrchu dan Hyfforddiant yn Sea Kayaking UK
top of page

Floyd Chapman, Cynorthwyydd Cynhyrchu dan Hyfforddiant yn Sea Kayaking UK



“Rwy’n caru caiacau, rwy’n ei fwynhau, wrth fy modd mewn gwirionedd. Mae'n un o'r swyddi gorau ‘dwi erioed wedi cael!”


Mae Floyd Chapman, 21, o Gaergybi yn gweithio fel Cynorthwyydd Cynhyrchu dan Hyfforddiant ar leoliad Cynllun Kickstart y DU yn warws Sea Kayaking UK.


Ar ôl ysgol, aeth Floyd i'r coleg i gwblhau Lefel 1, 2 a 3 mewn Plastro ac wrth astudio, cafodd swydd gyda phlastrwr preifat. Yn dilyn y coleg, bu Floyd i mewn ac allan o wahanol swyddi am gyfnod, ac nid oedd yr un ohonynt yn sefydlog iawn nac yn amgylchedd cywir iddo. Yn gynharach eleni, roedd Floyd allan o waith ac felly fe arwyddodd i Gredyd Cynhwysol yn y JCP lleol yng Nghaergybi.


Roedd Floyd yn awyddus i ddod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu ond daeth ar draws y rôl hon a barodd ei ddiddordeb. Fe wnaeth Beth, ei fentor Môn CF ei helpu i ymgeisio am y rôl, meddai Floyd “Doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i’n mynd i gael y swydd oherwydd roedd gen i hyder isel, felly roeddwn i’n hapus pan gefais y swydd.”



Mae Floyd yn ymwneud â chynhyrchu'r caiacau, sydd i gyd wedi'u gwneud o'r dechrau ar y safle. Mae rôl Floyd yn cynnwys creu’r rims eistedd y mae’n eu gwneud gyda gwydr ffibr ac yn eu lamineiddio â resin. Mae'n gweithio ei ffordd i fyny i weithio'n annibynnol gyda llai o arweiniad.


“Ar ddechrau’r dydd, rwy’n dod i mewn, cnocio’r rims a’r seddi o ddoe oddi ar y mowldiau, glanhau’r mowldiau, eu gelio, gadael hynny i’w osod, gwydr ffibr a resin, yna ychwanegu’r pigment (lliw).”


Mae Joanne, Rheolwr Swyddfa yn Sea Kayaking UK yn falch o gynnydd Floyd ac yn awyddus i’w weld yn datblygu ei sgiliau. Mae Floyd bellach dros dri mis yn ei leoliad, “Mae'n lle gwych i weithio, mae'n ymarferol ac mae pawb yn gyfeillgar.”



Mae Floyd bellach yn cael ei gefnogi gan ein tîm Mewn Gwaith a chyn bo hir bydd yn dechrau ar ei wersi gyrru wedi'i ariannu, i gynyddu ei ragolygon swydd yn y dyfodol. Da iawn, Floyd!






bottom of page