£540 mil o gyllid prosiect wedi cadarnhau
top of page

£540 mil o gyllid prosiect wedi cadarnhau

Updated: Aug 2, 2021


Bydd y ddau brosiect, Ffiniau Newydd 18-24 a Ffiniau Newydd 25+ yn chwarae rhan fawr wrth hybu economi Gwynedd eleni. Yn 2021 yn unig, byddwn yn creu dros 76 o swyddi yn yr ardal: • 40 o Leoliadau Gwaith gyda Thâl • 30 + Lleoliadau Cynllun Kickstart • 6 Aelod o Staff yn gweithio fel rhan o’r Prosiect Mae enw’r cynllun sef 'Ffiniau Newydd' yn sicr yn addas iawn gan mae dyma’r tro cyntaf fydd MônCF yn gweithio mewn Sir arall sef Gwynedd.

Rydym wedi recriwtio tîm cyflwyno deinamig, byddent yn gyfrifol am weithio'n agos gyda chleientiaid a busnesau newydd yng Ngwynedd. Bydd y tîm wedi'i leoli yn ein Swyddfeydd ym Mangor a Chaernarfon: • Lleoliad Swyddfa Bangor: Ystafell 4, Stryd y Deon, Bangor, Gwynedd, LL57 • Lleoliad Swyddfa Caernarfon: I'w gadarnhau Byddwn yn cefnogi unigolion i wella eu sefyllfa gwaith drwy hyfforddiant pellach, cymorth gydag ysgrifennu CV, chwilio am swydd a chyfeirio. Chwilio am waith? Llenwch ein ffurflen ymholiadau. Mae MônCF yn ddiolchgar am y gefnogaeth a gawn gan gyllidwyr yn ogystal â’r gymuned, ar ôl blynyddoedd lawer o lwyddiant a datblygiad yn Ynys Môn, gobeithiwn y cawn yr un effaith gadarnhaol yng Ngwynedd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau rheolaidd:

bottom of page