
KICKSTART SCHEME For Employers
Mae Môn CF bellach yn derbyn ceisiadau gan gyflogwyr ar draws pob sector sydd am fod yn rhan o Gynllun Kickstart y Llywodraeth!
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y DU wedi lansio Cynllun Newydd o’r new ‘Kickstart’, gyda’r bwriad o helpu cyflogwyr a cheiswyr gwaith ifanc trwy leoliadau chwe mis sydd wedi eu hariannu’n gyfan gwbl; creu cannoedd ar filoedd o swyddi newydd i bobl ifanc ledled y wlad.
Penodwyd Môn CF yn Borth ar gyfer Cynllun Kickstart, i gynorthwyo cyflogwyr i ymgeisio a darparu cyfleoedd i bobl ifanc ddi-waith - i'w helpu i gael profiad gwaith gwerthfawr, datblygu sgiliau newydd a chynyddu eu cyfleoedd am swyddi yn y dyfodol.
Ers mis Ebrill 2019, rydym wedi cefnogi dros 170 o drigolion Ynys Môn i gyflogaeth gynaliadwy gan eu helpu i basio dros 500 o gymwysterau achrededig.
Mae ceisiadau gan gyflogwyr eisoes ar y gweill, a rydym yn derbyn ceisiadau gan gyflogwyr ar draws pob sector ledled Ynys Môn a Gwynedd. Rydym yn cynrychioli cyflogwyr bach i ganolig sydd am gynnig un neu fwy o leoliadau Kickstart. Bydd Môn CF yn gweithio gyda busnesau lleol i grwpio 30 o leoliadau gyda'i gilydd a gwneud cais ar eu rhan.
Beth yw rôl Porth?
-
Cefnogi cyflogwyr na allant ddarparu 30 o leoliadau ar eu pennau eu hunain
-
Casglu gwybodaeth gan y cyflogwyr am y lleoliadau swyddi yr hoffent eu cynnig
-
Defnyddio’r wybodaeth hon i wneud cais ar-lein ar ran grŵp o gyflogwyr
-
Talu’r cyllid i gyflogwyr (er enghraifft cyflog y person ifanc)
Beth all Môn CF ei ddarparu?
-
Mynediad at y cyllid ar gyfer y lleoliad
-
Cefnogaeth ar gyfer gwaith/swydd a'r gefnogaeth hefo sgiliau sylfaenol
-
Pecynnau hyfforddi achrededig wedi'u teilwra
-
Cefnogaeth recriwtio a dewis rhestr fer o ymgeiswyr
Pa gyllid sydd ar gael?
-
Cyllid 100% o'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol am 25 awr yr wythnos
-
Hyd at £1500 am bob lleoliad gwaith tuag at eich costau trefnu’r lleoliad, cefnogaeth a hyfforddiant i’r gweithiwr Newydd
-
Cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol y cyflogwr
-
Cyfraniad cofrestru lleiafswm awtomatig y cyflogwr
Mae mwy o wybodaeth am gynllun Kickstart y Llywodraeth ar gael yma.
I gofrestru'ch diddordeb mewn bod yn rhan o gynllun Kickstart a chynnig un neu fwy o leoliadau chwe mis, wedi'u hariannu'n llawn, yna cwblhewch ein ffurflen gofrestru.
Fel arall, gallwch ein ffonio rwan ar 01407 762004 a gofyn am y ‘Tîm Cefnogi Kickstart’ neu e-bostio kickstart@moncf.co.uk