top of page
welsh logo.png

Mae'r Cynllun Ailddechrau wedi ei gomisiynu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a bydd y cynllun yn rhoi cymorth teilwredig, arbennig i unrhyw un sy'n hawlio  Credyd Cynhwysol yn yr IWSR* sydd wedi bod heb waith am o leiaf 12 mis hyd at 18 mis i ddod o hyd i waith. Dewiswyd SERCO i gynnal y cynllun yng Nghymru ac mae Môn CF yn un o'r darparwyr sydd wedi ei ddewis gan SERCO i gynorthwyo wrth gynnal y gwasanaethau.

Rydym yn darparu cefnogaeth teilwredig i unigolion ar Ynys Môn yn yr ISWR sydd wedi bod yn hawlio Credyd Cynhwysol am o leiaf 12 mis hyd at 18 mis.

Rydym yn benderfynol o ddeall eich amgylchiadau personol, bwriadau a'ch dyheadau i'ch helpu chi i ymddatod unrhyw rwystrau a symud ymlaen wrth ffeindio swyddi diogel a chynaliadwy.

Gall ein tîm arbenigol eich helpu yn y ffyrdd canlynol:

  • Darparu cefnogaeth 1:1 ymroddedig gan ein mentoriaid cyflogaeth

  • Mynychu hyfforddiant a chymwysterau

  • Cynghori ar ddyled a materion rheoli arian

  • Cynyddu hyder a sgiliau

  • Paratoi CVs a thechnegau cyfweliad

  • Cefnogi cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol

  • Gwella canlyniadau chwilio am waith

  • Ffeindio a sicrhau cyflogaeth cynaliadwy

  • Rydym hefyd yn benderfynol o ddarparu cefnogaeth barhaol i chi a'ch cyflogwr drwy amrediad o gyfleoedd uwchsgilio a datblygiad.

I ddarganfod mwy am y Cynllun Ailddechrau, siaradwch gyda'ch hyfforddwr gwaith yn y Ganolfan Byd Gwaith.

Serco-Provider Logo EngCym.png
DWP_Billingual_Partner_3262.png
bottom of page