Pam ddaethoch chi at Môn CF?
Matthew: Roeddwn eisoes yn gweithio mewn bwyty lleol ond yn teimlo nad oeddwn yn gwneud yn fawr o’m sgiliau na’m phersonoliaeth. Soniodd rhywun wrthyf am Môn CF a phenderfynais ei fod yn le da i fynd am gymorth hefo fy ngyrfa.
Angharad: Fe wnes i gais am swydd roedd Môn CF yn ei hysbysebu ar ran archfarchnad leol. Nid oeddwn yn llwyddiannus ar yr adeg honno ond trwy’r profiad a gefais roedd gennyf well ddealltwriaeth o beth all Môn CF ei gynnig a beth allent gynnig i mi’n benodol.
Wnaethoch chi wneud unrhyw hyfforddiant?
Matthew: Do, mi wnes i fynychu cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a fyddai’n ddefnyddiol wrth i mi ddod i gysylltiad hefo’r cyhoedd.
Angharad: Mi wnes i fynychu dau gwrs: Cymorth Cyntaf ar Frys yn y Gweithle a Sgiliau Delio â Chwsmeriaid. Roedd y ddau gwrs yn wych ac roeddynt yn allweddol i’m helpu i gael y swydd sydd gennyf ar hyn o bryd. Yn ogystal â’r cyrsiau cefais gymorth gan fy Mentor i ddiweddaru fy CV a sylwais yn syth bin fy mod yn cael mwy o ymatebion gan gyflogwyr.
Be da chi’n ei wneud rŵan?
Matthew: Soniodd fy Mentor fod yna swyddi ar gael ym Maes Awyr Ynys Môn a danfonwyd fy CV a ffurflen gais yno. Cefais gyfweliad anffurfiol yn swyddfa Môn CF ac un mwy ffurfiol wedyn yn y Maes Awyr. Rŵan dwi’n Swyddog yn y Maes Awyr gyda chyfrifoldeb am ddiogelwch ac archwilio bagiau teithwyr yn y maes awyr.
Angharad: Cefais gymorth gan fy Mentor i wneud ceisiadau am gyfleodd gwaith ym Maes Awyr Ynys Môn. Cefais gymorth hefyd gyda sgiliau sut i ymddwyn mewn cyfweliad. Roedd yna gyfweliad anffurfiol ym Môn CF, oedd yn grêt i mi achos roeddwn yn gyfforddus yno. Maes o law cefais gynnig swydd yn y Maes Awyr – sy’n ffantastig!
Beth sy’n dda am Môn CF?
Matthew: Yn bendant lefel y cymorth sydd ar gael – yr anogaeth, cymorth a gwaith paratoi ymlaen llaw. Hefyd, mae eu cysylltiadau hefo cyflogwyr lleol yn agor drysau.
Angharad: Y cyrsiau a’r cyfleoedd. Dwi wedi bod yn sôn wrth pbawb pa mor ffodus dwi wedi bod yn cael y swydd – ac mae’r clod i gyd i staff Môn CF.
Comments