Rhaglen ANELU
top of page

Rhaglen ANELU



Gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion uwchradd ar draws Ynys Môn a Gwynedd, gan alluogi disgyblion i ddod yn fwy hyderus i fynd allan i'r gweithle.


Mae Cain Silence a fynychodd y Rhaglen Anelu tra yn Ysgol Ywchradd Caergybi yn mwynhau ei swydd yn The White Eagle fel Porthor Cegin.


Beth ydi’r rhaglen Anelu?


Mewn ymateb i'r ffaith bod llawer o bobl ifanc yn fwy addas ar gyfer dyfodol galwedigaethol yn hytrach na dyfodol academaidd ôl-16, rydym wedi datblygu rhaglen Anelu. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd ymyrryd yn gynnar i geisio cynorthwyo pobl ifanc i gael y sgiliau a’r cymwysterau angenrheidiol er mwyn eu paratoi ar gyfer byd gwaith. Mae rhaglen Anelu wedi ei dreialu'n llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Caergybi ac and Ysgol Uwchradd Bodedern, Ynys Môn ac Ysgol Dyffryn Nantlle, Gwynedd, gyda nifer o ddisgyblion yn derbyn cymwysterau ac o ganlyniad yn symud ymlaen i waith, hyfforddiant neu addysg bellach. Os bydd eich plentyn yn cwblhau rhaglen Anelu byddent yn meddu’r sgiliau ar gyfer byd gwaith, yn ogystal â chael amser hwyliog ar y rhaglen.


Bwriad y rhaglen yw rhoi ymwybyddiaeth i ddisgyblion o’r sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle a theilwrio’r sesiynau er mwyn rhoi gobaith i aelodau’r grwpiau rhan eu dyfodol. Gall y pwyntiau ‘Gwerthoedd Perfformiad a Chyfraniad tuag at y Cwricwlwm’ sydd ynghlwm â’n cyrsiau gyfrannu yn eu yfanrwydd at radd sy’n cyfateb i ‘A’ yn TGAU. Yn dilyn y rhaglen gall disgyblion adael yr ysgol gyda llond llaw o gymwysterau a chyrsiau achrededig m na fydden fel arall wedi eu derbyn. Yn ogystal, bydd y cymwysterau hyn yn rhan bwysig o CV pob disgybl yn y dyfodol.


E-bostiwch ni a’r training@moncf.co.uk am ragor o fanylion.

bottom of page