Mae Dafydd yn un o dri cwsmer i gael eu rhoi ar leoliad Cynllun Kickstart fel Cynorthwyydd Iard gyda C L Jones eleni, mae’r Cynorthwywyr Iard eraill wedi cael eu gosod yng Nghaernarfon a Llangefni, a dechreuodd pob un ohonynt ym mis Mehefin.
Aethon ni i ymweld â Dafydd yn y warws yn ddiweddar, mae'n mwynhau ei rôl a dywedodd:
“Mae'n ffordd wych o ddysgu am wahanol grefftau, os nad ydych yn siŵr pa fath o waith rydych chi'n mynd i fynd iddo. Rydych chi'n dysgu llawer am yr holl wahanol ddefnyddiau, offer a chrefftau. Rwy’n caru’r math hwn o waith!”
Roedd Dafydd wedi gweithio yn Surf Snowdonia o'r blaen, ond yn anffodus, oherwydd y pandemig, cafodd ei ollwng felly roedd allan o waith. Aeth Dafydd i'r JCP yn Llandudno a chafodd ei arwyddo i'n swyddfa Môn CF ym Mangor gan ei hyfforddwr gwaith.
Mae Dafydd bellach dri mis i mewn i'w leoliad ac oherwydd ei berfformiad rhagorol, mae wedi cael ei gynnig oriau llawn amser. Mae Dafydd yn gobeithio, unwaith y bydd ei leoliad yn dod i ben, y bydd yn cael ei gadw ymlaen yn C L Jones fel aelod parhaol o'r tîm.
Dywedodd Ian Whalley, Rheolwr Dafydd, “Rydyn ni’n falch iawn o sut mae o’n dod ymlaen, mae’n siarad Cymreag, yn adnabod y pobl lleol, ac mae’n awyddus i ddysgu.” Ychwanegodd Dewi, Rheolwr Cynorthwyol, “Mae Iwan yn bersonadwy iawn, yn dda gyda chwsmeriaid ac yn awyddus i helpu.”
Yn ychwanegol i’r contract parhaol, mae Ian yn hapus i Dafydd gael hyfforddiant ar gyfer ei drwydded Fforch godi unwaith y gellir ei drefnu gyda'u darparwyr hyfforddiant. Da iawn, Dafydd!
Comments