Cassandra Jones, o Gynorthwyydd Cyllid dan Hyfforddiant i Reolwr Cyllid mewn 4 blynedd
top of page

Cassandra Jones, o Gynorthwyydd Cyllid dan Hyfforddiant i Reolwr Cyllid mewn 4 blynedd


Dechreuodd Cassandra Jones weithio i Môn CF ym mis Chwefror 2015 fel Cynorthwyydd Cyllid dan Hyfforddiant, gan weithio ar gyllid pob prosiect. Cyn ymuno â'r cwmni, roedd Cassandra wedi bod yn gweithio i Gwynedd Shipping am 10 mlynedd fel Clerc Cyfrifon ond roedd yn awyddus i ddatblygu. Cyn Gwynedd Shipping, roedd wedi gweithio mewn amryw o rolau Cyllid a Gweinyddiaeth i gwmnïau gan gynnwys Hedstrom, NatWest Bank a Vita Cortex Dublin.


Taith Cassandra gyda ni hyd yn hyn…


“Dechreuais fy Nghymhwyster Lefel 2 AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) ym mis Chwefror 2015. Yn 2016, cwblheais AAT Lefel 3 ac es ymlaen i fod yn Gynorthwyydd Cyllid. Cwblheais fy AAT Lefel 4 tra ar Absenoldeb Mamolaeth a dychwelais i'r gwaith ym mis Ebrill 2018 fel y Swyddog Cyllid a Monitro ar Brosiect Mewn Gwaith WEFO. Ym mis Ebrill 2019, cefais fy nyrchafu'n Rheolwr Cyllid ar gyfer Môn CF ac erbyn hyn mae gen i dîm o 3 yn gweithio gyda mi. Y mis nesaf, byddaf yn cychwyn fy Nghymhwyster ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) i barhau â fy natblygiad proffesiynol.”


Fe wnaethon ni ofyn i Cassandra beth yw ei hoff beth am weithio i Môn CF, meddai:


“Mae gen i dri hoff beth am weithio i Môn CF. Rhaid i'r cyntaf fod y gwahaniaeth rydyn ni'n ei wneud i fywydau pobl a'n cymuned, yr ail yw'r bobl y mae'n bleser gweithio gyda nhw bob dydd, ac y trydydd yw gweithio gyda rhifau trwy'r dydd, rydw i wedi eu caru ers yn blentyn.”

Hoffech chi ddod i weithio i Môn CF? Cymerwch gip ar ein cyfleoedd gyrfa yma.

bottom of page