Gyrru Car | Môn CF
top of page

Gyrru Car

Mae Môn CF yn deall y gall pasio'ch prawf gyrru wneud gwahaniaeth mawr i'ch rhagolygon gyrfa a'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael i chi. Trwy gyllid gan Magnox a’r Waterloo Foundation, gallwn gefnogi cyfranogwyr sydd ar ein rhaglenni cyflogaeth i oresgyn un o'r rhwystrau mwyaf cyffredin sy'n wynebu'r unigolion sy'n cerdded trwy ein drysau.

​

P'un a ydych yn ddi-waith neu eisoes mewn swydd, gallwn eich helpu i weithio tuag at basio'r prawf theori gyrru trwy sesiynau hyfforddi wythnosol a gynhelir yng Nghaergybi, Amlwch a Phorthaethwy. Efallai os ydych yn gyflogedig ac wedi llwyddo yn eich prawf theori gallwch fod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at wersi gyrru a'r prawf ymarferol.

​

Rydym eisoes wedi helpu llawer o bobl leol i basio’u prawf gyrru – ai chi fydd y nesaf? Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01407 762004 neu e-bostiwch Employmentsupport@moncf.co.uk.

driving-instructor.jpg
bottom of page