top of page

Datblygu Hyder

Gan redeg ochr yn ochr â'r cymwysterau cydnabyddedig a gynigiwn, mae gennym gyfres o gyrsiau byr gyda'r nod o'ch paratoi i gymryd eich camau cyntaf tuag at wneud newid. Waeth beth yw eich amgylchiadau, mae'r cyrsiau hyn yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, magu hyder, cynllunio ar gyfer y dyfodol a dathlu popeth rydych wedi'i gyflawni hyd yn hyn. Maent yn cynnwys:

Cyflwynir y cyrsiau hyn gan ein tîm Cyflogaeth i grwpiau bach mewn lleoliadau anffurfiol yn ein safleoedd ym Mhorthaethwy, Amlwch a Chaergybi. Teimlwn fod y cyrsiau hyn yn ffordd wych inni eich cyflwyno i'r gwasanaethau ehangach a gynigir gan Môn CF, gyda'r bonws ychwanegol y byddwch yn derbyn tystysgrifau wedi'u hachredu gan Agored Cymru.

Os ydych chi'n teimlo y gallech chi elwa o fynychu un neu fwy o'r cyrsiau hyn, cysylltwch â ni trwy ffonio ar 01407 762004, anfon e-bost at Employmentsupport@moncf.co.uk, neu lenwi ein ffurflen ymholiadau byr.

bottom of page