Sep 14, 20211 min

Cynllun Ailddechrau

Mae'r Cynllun Ailddechrau wedi ei gomisiynu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a bydd y cynllun yn rhoi cymorth teilwredig, arbennig i unrhyw un sy'n hawlio Credyd Cynhwysol yn yr IWSR* sydd wedi bod heb waith am o leiaf 12 mis hyd at 18 mis i ddod o hyd i waith. Mae'r cynllun yn rhan o raglen Cynllunio am Swyddi y Llywodraeth. Bydd y Cynllun Ailddechrau yn ymddatod unrhyw gyfyngiadau allai rwystro pobl rhag ffeindio swyddi.

Dewiswyd SERCO i gynnal y cynllun yng Nghymru ac mae Môn CF yn un o'r darparwyr sydd wedi ei ddewis gan SERCO i gynorthwyo wrth gynnal y gwasanaethau.

Bydd Môn CF yn gweithio gyda chyflogwyr, llywodraeth leol a phartneriaid eraill i gynnal cefnogaeth teilwredig i unigolion ar Ynys Môn.

Cliciwch y ddolen i ddarganfod mwy am y Cynllun Ailddechrau neu cysylltwch gyda'ch hyfforddwr gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith leol.

*Intensive Work Search Regime