Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio cynllun newydd o’r enw ‘Kickstart’, sydd wedi ei greu i helpu cyflogwyr a phobl ifanc sy’n chwilio am waith. Bydd lleoliadau chwe mis yn cael eu hariannu’n llawn gan greu cannoedd ar filoedd o swyddi newydd i bobl ifanc ledled y wlad. Penodwyd Môn CF yn ddarparwr Porth ar gyfer Cynllun Kickstart, i gynorthwyo cyflogwyr sydd yn awyddus i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ddi-waith er mwyn eu helpu i gael profiad gwaith gwerthfawr, datblygu sgiliau newydd a gwella eu rhagolygon o gael swydd yn y dyfodol. Mae Môn CF wrthi ar hyn o bryd yn derbyn ceisiadau gan gyflogwyr ar draws pob sector ledled Ynys Môn a Gwynedd. I gofrestru eich diddordeb i fod yn rhan o Gynllun Kickstart a chynnig un neu fwy o leoliadau chwe mis (sydd wedi'u hariannu'n llawn), yna cwblhewch ein ffurflen gofrestru. Os ydych chi'n 16-24 oed hefo diddordeb mewn lleoliad gwaith hefo cyflog am 6 mis, mae ein tîm Cymorth Cyflogaeth wrth law i'ch helpu chi. Gall y tîm eich helpu chi i ddechrau cais am Gredyd Cynhwysol a hefyd eich cefnogi i wella'ch CV, cwblhau ceisiadau a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. I glywed mwy am leoliadau swyddi Cynllun Kickstart, cwblhewch ein ffurflen ymholiadau ar-lein. Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill am Gynllun Kickstart, ffoniwch ni ar 01407 762004 a gofynnwch am ein ‘Tîm Cymorth Kickstart’ neu e-bostiwch kickstart@moncf.co.uk
Comments