Roedd Mary Jones, 60 o Benrhosgarnedd wedi gweithio yn Debenhams, Bangor am 18 mlynedd. Oherwydd i'r siop gau ar Fai 4ydd, 2021, diswyddwyd Mary.
Yn ymwybodol o’r siop yn cael ei gau, penderfynodd mentoriaid Môn CF mynd i’r siop i gynnig cymorth cyflogaeth i'r staff a oedd yn wynebu cael eu diswyddo. Nid oedd Mary wir yn chwilio am waith ar y pryd ond penderfynodd wneud y gorau o'r gwasanaeth cymorth a oedd ar gael, a chofrestrodd gyda ni.
Dyrannwyd Mary i Rhian Jones, ein Mentor Cymorth Cyflogaeth yn Gwynedd. Mi wnaeth Rhian helpu Mary i ysgrifennu ei CV a chwilio am swydd.
Aethon ni i ymweld â Mary yn y gwaith, dyma beth ddywedodd hi:
“Roedd Rhian yn wych, roedd hi'n hyfryd. Y ffordd yr eisteddodd hi yno a dweud “siarad i fi, dywedwch wrthyf beth rydych chi wedi bod yn ei wneud” a rhoddodd sicrwydd imi fy mod i wedi gwneud digon, a sylweddolais fod gen i rywbeth i'w gynnig. Fe wnaeth hi mewn ffordd hyfryd iawn, wrth sgwrsio. Nid tan i chi ddechrau siarad, rydych chi'n sylweddoli beth rydych chi wedi'i wneud mewn gwirionedd. Roeddwn i'n meddwl “pwy fydd eisiau fi yn yr oedran hwn?”. Ond fe roddodd hyder i mi ar y pryd.”
Gan fod Mary wedi gweithio ym maes manwerthu ers blynyddoedd, roedd hi'n awyddus i ddod o hyd i swydd arall yn y maes hwn, oherwydd ei bod hi’n mwynhau. Yn ystod y sesiynau chwilio am swydd yn swyddfa Bangor, daeth Rhian a Mary o hyd i swydd yn James Weaver Pringles yn Llanfairpwllgwyngyll.
Meddai Mary, “Dechreuodd Rhian ar fy CV, a helpu gyda'r ffurflen gais, a cefais gyfweliad. Rydw i nawr yn gweithio 20 awr dros dri diwrnod yn Pringles yn Llanfairpwllgwyngyll. Mae'n braf a chyfeillgar, mae'n lle hyfryd i weithio.”
Comentarios