Mae Rozzy o'r Tîm Sgyrsiau Lleol yng Nghaergybi wedi bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau bod cynllun ar waith ar gyfer teuluoedd fydd yn wynebu amser caled y Nadolig hwn. Fel y gwyddom i gyd, mae Covid wedi cael effaith ariannol sylweddol ar bawb a bydd llawer mwy o deuluoedd nag arfer yn dioddef eleni. Mae Rozzy wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn ac o ganlyniad mae tri phrosiect wedi eu sefydlu mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill. Mae'r prosiectau'n cynnwys Apêl Tegan Nadolig, Hamperi Bwyd Nadolig, a Hwyl Y Nadolig (Siôn Corn yn gyrru o amgylch pentrefi, cystadlaethau ysgol ac ati). Mae Rozzy yn arwain ar Apêl Tegan ar gyfer y Nadolig i sicrhau bod ffordd i bob plentyn ar yr ynys, lle mae rhieni'n dioddef, yn derbyn anrheg ar Ddydd Nadolig. Bydd atgyfeiriadau ar waith ar gyfer pob teulu sy'n cofrestru ar gyfer Credyd Cynhwysol rhwng nawr a'r Nadolig i dderbyn hamper bwyd yn awtomatig ac anrheg i'w plant, yn ogystal â'r teuluoedd hynny sydd wedi dioddef colli cyflogaeth neu hunangyflogaeth. Mae'r gwasanaethau i blant hefyd wedi nodi bod dros 300 o blant mewn perygl eleni o beidio â derbyn rhodd am amryw o resymau (nid yw'r rhain yn cynnwys plant sy'n derbyn gofal gan fod cyllid wedi'i neilltuo ar gyfer y plant hyn hefyd). Mae amryw o lefydd ar draws yr ynys ar gyfer cyfrannu eich rhoddion, gan gynnwys Morrisons yng Nghaergybi lle mae Rozzy yn gyfrifol am gydlynu, a’r The Hive 61 Market Street, lle mae Steph a Rozzy o'r tîm Sgyrsiau Lleol wedi'u lleoli. Mae Steph a Rozzy yn gofyn i bobl roi anrhegion i ferched a bechgyn o bob oed rhwng 0-18 oed. Mae angen i'r rhoddion hyn fod yn newydd a heb eu lapio er mwyn i ni sicrhau bod y rhodd cywir yn mynd i'r plentyn cywir. Yna bydd rhieni'n derbyn papur lapio a selotep; er mwyn sicrhau eu bod dal i allu lapio rhodd ar gyfer eu plentyn ac er mwyn gwybod beth ydi’r anrheg; mae'n bosibl iawn mae’r rhodd yma ydi’r unig un fydd y plentyn yn eu derbyn gan Siôn Corn eleni. Bydd rhieni'n cael yr opsiwn o gyflwyno'r anrhegion hyn yn dawel gyda'u hamper bwyd, neu gasgliad ar wahân o amrywiaeth o leoliadau ar draws yr ynys (bydd Canolfan Gymunedol Millbank yn cael ei defnyddio yng Nghaergybi). Dyddiad amcangyfrif ar gyfer hyn yw'r 16eg o Ragfyr.
תגובות