Mar 112 min
Ymunwch â ni ar gyfer Digwyddiad Gwybodaeth a Lansio Grantiau Môn CF!
Mae Môn CF yn gadael i berchnogion busnesau lleol ddarganfod yr holl gefnogaeth sydd ar gael drwy Môn CF!
Bydd y digwyddiad yn lansio'r rownd nesaf o Grantiau Busnes Bach!
Mae'r grantiau hyd yma wedi helpu cannoedd o fusnesau bach ar Ynys Môn i dyfu a chynyddu!
Os ydych chi'n berchennog busnes bach, yn fasnachwr unigol hunangyflogedig, neu os oes gennych chi syniad busnes yr hoffech ei drafod, mae'r digwyddiad hwn ar eich cyfer chi!
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i fusnesau bach ddarganfod yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael ar Ynys Môn!
Cewch wybodaeth am Môn CF, a’r hyn sydd ar gael I chi a’ch busnes.
Bydd ein timau wrth law i roi cyngor a chymorth ym mhob agwedd or fusnes, gan gynnwys:
Grantiau a Chyllid - Cefnogi datblygiad a thwf busnesau lleol.
Lleoliadau Gwaith â Thâl - Helpu busnesau i fanteisio ar dalent a datblygu'r farchnad swyddi ar Ynys Môn.
Cefnogaeth Cyflogaeth – Help I chi ddatblygu eich gweithlu.
Gwasanaethau Recriwtio Am Ddim - I helpu busnesau i ddod o hyd i'r bobl iawn a llenwi swyddi’n gyflym.
Dylunio Gwe a Marchnata – Help hefo brandio’ch busnes a mynd ar lein.
Hyfforddiant - Helpu I ddatblygu [obl a busnensu Ynys Môn drwy hyfforddiant pwrpasol.
Bydd cynrychiolwyr asiantaethau hefyd yn y digwyddiad i roi cymorth i fusnesau.
Bydd cynrychiolwyr o Gyngor Sir Ynys Môn, Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, FSB, a Menter Môn yn bresennol, gyda mwy i’w cyhoeddi’n fuan!
Daeth dros 300 o fusnesau i’n digwyddiad diwethaf, ac o ganlyniad, cawsant y cymorth yr oedd ei angen arnynt i dyfu!
Rydym am helpu hyd yn oed mwy o fusnesau ar Ynys Môn drwy gymorth ymarferol a grantiau.
Dyna pam mae ein digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yng Ngwesty Bulkeley ym Miwmares. Os ydych yn mynychu’r noson cewch wybod yn gynnar am y grant a sut i’w hawlio.
Lansio Noson Wybodaeth a Grantiau Môn CF:
Ebrill 11eg
3pm - 8pm
Gwesty Bulkeley, 19 Stryd y Castell, Biwmares, LL58 8AW
Mae cofrestru ar gyfer digwyddiad Gwybodaeth a Grantiau Môn CF yn hawdd.
Rydym yn deall bod rhedeg busnes yn golygu eich bod yn brysur. Mae modd I chi bwcio slot I weld un o’n staff ar y noson, ymlaen llaw.
Dilynwch y ddolen isod, dewiswch amser sy'n addas i chi ac archebwch eich tocyn.
Mae mynediad i’r digwyddiad yn hollol AM DDIM, a dim ond ychydig funudau y mae cofrestru’n ei gymryd.